Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #15: Ganthrig y Wrach

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn

O Ganthrig y Wrach, Canthrig y Wrach,

be berodd i ti fwyta ymenyddion y crach?

A wnes di syrffedu ar geisio cydymffurfio

a gwylio’r dyddiau’n gwibio heibio?

 

O Ganthrig y Wrach, Canthrig y Wrach,

dywedant i ti hefyd fwyta plantos iach!

Ond ai si yn unig oedd y sibrwd hwn

am i ti drigo ‘mhosibilrwydd yr annwn?

 

O Ganthrig y Wrach, Canthrig y Wrach,

sut beth oedd cael dy drin fel bwbach?

A oedd y rhybuddion rheibus praff

yn dy frifo, dy greithio, yn gadael eu hargraff?

 

O Ganthrig y Wrach, Canthrig y Wrach,

maen siŵr i ti deimlo’r pwysau a’r strach

wrth feiddio herio Herodau dy oes,

pob un a’i goron ddychmygol, difoes.

– Beth Celyn, 4:01 pm

 

Her 100 Cerdd 2019