Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #16: Parcio

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker
Her 100 Cerdd #16: Parcio

Parcio

I longyfarch fy nhiwtor ym Mhrifysgol Abertawe, Yr Athro-Brifardd Tudur Hallam, ar gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ‘Parcio’. Un o brif linynnau’r gyfrol yw anghyfiawnderau diwylliannau nad yw’n wynion o dan arlywyddiaeth Trump.

 

Brifardd, gwn iti brofi

taw ei awr a welaist ti;

campwaith uniaith i wynion

a roes ef, er gwaetha’r sôn

am degwch! Gwrandwch i’w gri!

Y dynion yw’r dadeni!

A’i rin ef yw cadarnhau

mai aur fydd codi’r muriau.

– Matthew Tucker, 4:08 pm

Uncategorized @cy