Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #2: Wy’n Rhy Hen i Hyn

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds
Her 100 Cerdd #2: Wy’n Rhy Hen i Hyn

Wy’n rhy hen i hyn

Wy’n rhy hen i shwd ffwlbri.
Pwy aros lan i sgrifennu
a cheisio lasŵio cerddi
o gwmpas y sêr yn oriau mân y nos
gan ddisgwyl dydd newydd i lasu.

Wy’n rhy hen i stryffaglu
trio nyddu pennill a jyst sgrifennu,
rhaffu stribedi dirifedi o gerddi,
ceisio bod yn fardd gwbl-cŵl-ond-jacôs
tra bo’r byd i gyd yn cysgu.

Wy’n rhy hen i fod yn grŵfi,
ma gen i gomitments ac wy’n grympi,
pethau diflas sy’n mynnu fy sylw i,
nid creu cerddi ’da’r criw ifanc clos
hwn o feirdd … Deffra! Arogla’r coffi!

– Elinor Wyn Reynolds, 1:26 pm

Uncategorized @cy