Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #3: Ai’r ref o’dd ar fai…?

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker

Ai’r ref o’dd ar fai…?

I Michael Cheika, rheolwr tîm rygbi Awstralia, yn dilyn buddugoliaeth Cymru y penwythnos diwethaf

 

“Grynda nawr te Michael, dewch inni
edrych yn ôl dros fore Sul!

Roedd dy dactegau’n smonach,
pam ddiawl ‘nest ti newidiadau eto?
S’dim cysondeb yn hwnna!
D’yw Genia a Foley heb ware da’i gilydd
ers dros flwyddyn, roedd y ddau
ar donfeddi gwahanol yn rheolaidd!

Mae angen iti esbonio rhai rheolau ‘fyd:
well i ti ddweud wrth dy gapten
bod angen taclo chwaraewyr
CYN iddyn nhw baso’r bêl, nid ar ôl!
A beth am Kerevi? Odyw e’n gwbod
s’dim hawl bwrw rhywun yn ei wddf?!
O’dd y ddau’n lwcus i aros ar y ca’!

Ond, beth am Gymru gwed?
Pob tro daethon nhw’n agos
o’n nhw’n gadel â phwyntie’!
Blaenwyr a’r olwyr yn fwy siarp,
sawl rhyng-gipiad gwed? 3 o leia!
Ac ma’r busnes Pocock a Hooper
ddim yn gwitho rhagor chwaith!
Be ddiawl ddigwyddodd yn y breakdown,
pedwar turnover yn yr ugen muned ola’?
Gadawa i rheini ‘da ti i’w sorto!

Ac wedi hyn i gyd, fy nghyfaill,
gofynna i eto – ai’r ref o’dd ar fai…?”

– Matthew Tucker, 1:43 pm

Her 100 Cerdd 2019