Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #5: Beirdd 24 Awr

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds
Her 100 Cerdd #5: Beirdd 24 Awr

Beirdd 24 awr

Rôl-yp! Rôl-yp!
Mae’r Bardd-bŵth ar agor,
dim hepian, dim cysgu,
dim cyntun, dim chwyrnu fan hyn, feirdd.
Dyma’r pop-yp-feirdd,
y ciosg-ar-ymyl y-lôn-feirdd,
y prynwch-bedwar-am-bris-un-feirdd,
yr I-can’t-believe-they’re-not-beirdd-beirdd,
y digwyddodd-darfu-feirdd.

Mae’r beirdd yma’n twenti-ffôr-sefen, gyfaill,
at eich gwasanaeth,
wastad on diwti
a’u cerddi papur wal
sy’n ymestyn hyd
bellafion y byd.
Gofynnwch am gerdd, neu gerddi,
unrhyw beth chi’n ffansi,
ma’r beirdd wastad yma i chi.

– Elinor Wyn Reynolds, 1:59 pm

Uncategorized @cy