Dewislen
English
Cysylltu

Her 100 Cerdd #8: Dy Galon Ofalus

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds

Dy galon ofalus

Mae dy galon ofalus di’n
llechu’n betrus rhywle rhwng
clais, briw ac anaf
y bwm-bwm cyson, brwd fel sibrwd,
tap-tap ysgafn ar ffenest fach fy enaid.
Bron nad wyf i’n ei chlywed,
ond rwy’n synhwyro ei churo.
Peth bach prin yw dy galon di,
peth pert odiaeth hefyd,
ei rhywelïau a’i rhychau cain
yn brydferth – yn berffaith.

– Elinor Wyn Reynolds, 2:27 pm

Her 100 Cerdd 2019