Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #9: Y Tomato

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis
Her 100 Cerdd #9: Y Tomato

Y Tomato

 

Ar hyd y byd mae llawer seigen;
Pad Thai, Burrito, Cabatshen.
ond dim ond un sy’n dod i’r ‘co
fy annwyl, dwyfol domato.

Mae’n tyfu yn y pot tu fas
ar ben ei hun drwy’r gwyntoedd cas,
yn dal i dyfu’n solet a thryw,
diolch byth fod e dal yn fyw.

Ond un dydd bydd rhaid ffarwelio
a’r ffefryn hoff domato
ei dynnu o’i le’n swta
ei dorri mewn stiw a’i fwyta

Tan hynny canaf glod
fod tomato erioed wedi bod.

– Dyfan Lewis, 2:33 pm

Uncategorized @cy