Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #100

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Caryl Bryn
Her 100 Cerdd #100

Terfyn

 

Daeth y bora’n

andros o ara’

‘rôl brathu beiros

yng nghanol niwl

ar hyd y nos

a byd y beirdd,

yn ara’ bach,

yn dod i ben –

ym mhen y lôn

daw’n gwaith

yn ôl

yn fore Llun

mewn swyddfa lom

a’r coed i gyd

yn plygu pen

wrth i fyd y beirdd

ddod i ben.

Caryl Bryn, 11.47 am

Uncategorized @cy