Her 100 Cerdd #24
Cyhoeddwyd Iau 4 Hyd 2018

Cerdd am un o genod ‘Y Festri’ (25 Craig y Don)’. Cais gan Lois Angharad. (@LoisAngharadE3)
I Erin Alaw, a fu’n wên a’n ffrind i bob un ohonom yn ‘Y Festri’ a rhoi’i ffrindiau’n gyntaf cyn ei hun, bob tro.
Doist, yn annwyl, ond distaw – yn hafan
i’n gafael a’th ddwylaw.
Yn felys, drwy’r dwys, y daw
ein heulwen, Erin Alaw.
Caryl Bryn, 17.41 pm