Ysgoloriaeth a Strategaeth gan Angela Graham
Cafodd Angela Graham, Cynhyrchydd Teledu Cymraeg ei hiaith o Ogledd Iwerddon, Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2017 i gwblhau casgliad o straeon byrion. Mae’n disgrifio mynd i’r afael ag ochr busnes y gwaith o ysgrifennu.
Hyd yn oed cyn i mi glywed bod Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu Ysgoloriaeth i mi, roeddwn wedi penderfynu y byddwn yn ymrwymo i ysgrifennu cyn gynted ag yr oedd prosiect mawr yn fy ngwaith wedi dod i ben ar 29 Ebrill. Pan gyhoeddwyd yr Ysgoloriaethau ar y 30ain, roeddwn eisoes wedi neilltuo pythefnos o heddwch i mi fy hun yn Strangford, Gogledd Iwerddon. Roedd anogaeth yr Ysgoloriaeth yn hwb aruthrol i mi ar gyfer y cyfnod hwn.
Ar lannau llyn Strangford, mae gan y pentref ddwy siop, dwy dafarn, dau fwyty a dau gaffi, ynghyd â fferi bach yn mynd yn ôl ac ymlaen o Bentir Ards bob hanner awr. Beth yn fwy allwn i ei angen?
Arhosais ar y brif stryd, mewn tŷ bychan, unigryw oedd yn eiddo i ffrindiau. Roedd diffyg gwres canolog yn golygu fy mod yn swatio yn yr ystafell wely ym mlaen y tŷ gyda bwrdd wrth ymyl y ffenest yn edrych tuag at Gastell Strangford, twr o’r pymthegfed ganrif. Roedd dyfroedd chwim y llyn ac adfeilion y felin ar y bryniau draw hefyd i’w gweld o’r fan hon. Canolfan i’r Brenin Magnus (Coesau Noeth) Olafson o Norwy oedd Strangford (‘Strong fjord’) a gollodd ei fywyd mewn brwydr nid nepell o’r fan yn 1103.
Heb fawr arall i’w wneud ond ysgrifennu roeddwn wrth fy modd. Serch hynny, rwy’n benderfynol o beidio â gorffen cyfnod yr ysgoloriaeth heb fod wedi dod o hyd i gyhoeddwr, felly roeddwn wedi cymryd rhai camau cyn ei mentro hi am Strangford, a fyddai’n sicrhau fy mod yn nes at y nod hwnnw.
Er fy mod yn gyfarwydd iawn â byd y cyfryngau darlledu, yn ogystal â’r ffaith fy mod yn gynhyrchydd ac yn ymgynghorydd polisi’r cyfryngau, rwy’n newydd iawn i fyd cyhoeddi. Doedd gen i’r un ffordd o gymharu fy hun ag arferion a thargedau awduron eraill. Rwy’n deall y farchnad i ryw raddau, felly roeddwn yn gwybod bod angen am asesiad gwrthrychol o ansawdd y gwaith roeddwn eisoes wedi’i wneud, a pha mor ddeniadol fyddai hwnnw i’r farchnad.
Gofynnais am gyngor gan Lenyddiaeth Cymru ac o ganlyniad ymchwiliais i waith golygyddion llenyddol. Mae awgrymiadau i’w cael ar wefan Llenyddiaeth Cymru ar dudalen Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer Awduron ac fe gysylltais â Gwen Lloyd Davies, golygydd y New Welsh Review (www.newwelshreview.com). Fe wnaethon ni gytuno y byddai hi’n darllen 18 o’m straeon i, gan asesu bob un yn unigol ac fel grŵp gyda’r nod o ystyried a oedd gen i gasgliad y byddai modd ei gyhoeddi. Roedd yr elfen hon o gasgliad yn rhywbeth nad oeddwn i wedi’i ddeall yn iawn fy hun. Roeddwn i wedi cyfansoddi’r straeon yn syml oherwydd roedd cymhelliant ynof i wneud.
Gofynnodd Gwen Lloyd Davies beth oedd ‘thema’r casgliad’. Am y tro cyntaf, oedais i feddwl am y 18 stori ddrafft hyn, ac eraill, fel cyfanwaith. Daeth thema i’r amlwg yn syth i mi, gydag ambell i is-thema. Rhoddais nodyn mewn amlen a’i selio, gan ofyn i Gwen ei ddarllen unwaith ei bod hi wedi llunio’i barn ei hun.
Rwyf am ddod o hyd i gynulleidfa i’m gwaith yng Ngogledd Iwerddon, felly roedd yn fwriad gennyf dreulio peth o’m hamser yno yn dod o hyd i’r posibiliadau. Gofynnais i Lenyddiaeth Cymru fy nghyflwyno i a’m gwaith i’w cydweithwyr yng Nghyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (artscouncil-ni.org).
Roedd fy nghyfarfod gyda’r bardd, Dr Damian Smyth (www.damiansmyth.com), Pennaeth Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon yn werthfawr tu hwnt. Rwy’n ymateb yn dda i rywun proffesiynol sydd â dealltwriaeth o’r farchnad ynghyd â thrylwyredd priodol. Roedd yn gefnogol i’r ffaith fy mod eisoes yn gosod fy ngwaith o dan chwyddwydr golygydd proffesiynol. Trafodwyd cyhoeddwyr, ac o ganlyniad, fe gysylltais ag un o brif gyhoeddwyr Iwerddon, ac roeddwn wrth fy modd pan gefais gyfarfod ag un o’u huwch-swyddogion. Ers hynny, ac yn ôl eu cais nhw, rwyf wedi anfon tair stori atynt.
Yn y cyfamser, daeth Gwen Davies yn ôl ataf gydag ymateb bras, a oedd yn galonogol iawn. Roedd yn gadarnhaol iawn am ansawdd fy ngwaith a’r ymdeimlad o gyfanwaith. Ar fy niwrnod cyntaf yn ôl yng Nghaerdydd, daeth fy straeon drwy’r post i mi gyda’i nodiadau llawn. Mae ei sylwadau hi’n cyd-daro’n llwyr â’m teimladau i. Rwyf wrth fy modd gyda’r synnwyr o fireinio a ddaw yn sgil y broses hon, y fath grefftwaith. Mae’n bleser pur.
Rwyf wedi cytuno i anfon y straeon y bûm yn gweithio arnynt yng Ngogledd Iwerddon ati fel y gall roi ei barn ynghylch a ydyn nhw’n gweddu i batrwm y casgliad y mae hi eisoes wedi’i adnabod yn fy ngwaith.
Rwy’n cyfaddef i’r broses o ddod o hyd i’r thema sy’n sail i fy ngwaith, fod yn brofiad anghyfforddus. Feddyliech chi erioed fy mod yn gwybod cymaint am …
Cyn eistedd wrth fy nesg ar fore Llun, roeddwn wedi gwirioni i glywed fy mod wedi ennill Gwobr Gyntaf Cystadleuaeth Stori Fer Agored Cylch Awduron Pen-y-bont ar Ogwr am Acting Abby: “Mae’r stori aml-haenog hon yn parhau i adleisio yn fy meddwl am hydoedd wedi’i darllen, sydd bob amser yn arwydd o lwyddiant… darn o waith o’r radd flaenaf sy’n ysgogi’r meddwl.”
Felly ‘yr oll’ sydd yn rhaid i mi ei wneud nawr yw parhau i ysgrifennu ac i ddod o hyd i asiant a chyhoeddwr. Mae ychydig o fisoedd ar ôl i’r ysgoloriaeth. Cawn weld pa mor bell yr af.