Pontydd Cyfieithu i’r Dyniaethau ac mewn Llenyddiaeth Cynhelir cynhadledd Pontydd Cyfieithu i’r Dyniaethau ac mewn Llenyddiaeth, ddydd Iau, 19 Ionawr 2017, a hynny yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Ymysg siaradwyr bydd
  • Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn trafod heriau cyfieithu gweithiau allweddol i Ieithoedd Llai ac i’r Gymraeg;
  • Eurig Salisbury a Ned Thomas yn trafod safbwyntiau a phrofiadau o gyfieithu;
  • Manon Steffan Ros, Siân Northey, Guto Dafydd a George Jones yn trafod y llenor, y cyfieithydd, a chyfieithu llenyddol.
I glo’r gynhadledd cynhelir derbyniad cyhoeddus i lansio rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn, Llên Cymru. Trefnir y gynhadledd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Canolfan Ymchwil Cyfieithu Diwylliannol Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. I gofrestru ar gyfer y gynhadledd cysylltwch gyda Dr Angharad Elias, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, drwy e-bostio, canolfan@cymru.ac.uk a hynny erbyn 12 Ionawr 2017. Codir ffî o £10 i’r sawl sydd mewn cyflogaeth. I gael gweld y rhaglen llawn ewch yma.