Mae’r noson yn gymysgedd o gymdeithasu â phobl, gemau geiriau yn erbyn y cloc, creu straeon byrion gyda dieithriaid a’r hud o’u rhannu’n uchel. Mae croeso i bawb.

Cyfle chwareus i ymarfer ysgrifennu byrfyfyr, ehangu’r dychymyg, datblygu sgiliau ysgrifennu cydweithredol a rhwydweithio gyda ysgrifenwyr, darllenwyr a dieithriaid eraill.

Nid oes angen profiad o ysgrifennu byrfyfyr na storïo. Yr unig beth sy’n ddisgwyliedig gennych yw parodrwydd i gydweithio â phobl nad ydych erioed wedi cwrdd â hwy o’r blaen.