Yn seiliedig ar ei llyfr ‘Syllu ar Walia’, bydd Ffion Dafis yn rhannu ei phrofiadau fel actores a chyflwynwraig gan roi sylw i’r hyn fu’n ddylanwad arni.

Mae Cylch Cadwgan yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Gymraeg Llantrisant, Clwb y Dwrlyn, Merched y Wawr Cangen y Garth, Capel Bethlehem Gwaelod y Garth a Chapel Tabernacl Efail Isaf ar gyfer cynnal rhaglen o gyfarfodydd llenyddol, a bydd pob sefydliad yn trefnu un cyfarfod y flwyddyn. Clwb y Dwrlyn sy’n trefnu’r cyfarfod hwn.

Caiff y gweithdy ei gynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.