Dewislen
English
Cysylltwch

Tŷ Newydd: Lansio Rhaglen Gymraeg yr Hydref

Cyhoeddwyd Sad 1 Hyd 2016 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd: Lansio Rhaglen Gymraeg yr Hydref
© Richard Outram
Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi cyhoeddi rhaglen o gyrsiau Cymraeg ar gyfer tymor yr hydref 2016.

Wedi eu hanelu at awduron newydd a rhai sydd eisoes â pheth profiad, rydym wedi dwyn ynghyd rhai o awduron gorau Cymru i arwain cyrsiau undydd ar farddoniaeth, rhyddiaith ac ysgrifennu sgript. Mererid Hopwood fydd yn rhoi cyngor am ysgrifennu barddoniaeth, a bydd Angharad Tomos yn ein cludo nôl i’n plentyndod ac yn ein hysbrydoli i ysgrifennu a darlunio straeon newydd ar gyfer plant. Bydd Harri Parri yn dychwelyd i’n dysgu sut i ysgrifennu straeon digrif, ac os nad yw ysgrifennu yn mynd a’ch bryd, bydd Bwyty Unnos yn cael ei gynnal yn dilyn cwrs undydd Harri Parri gyda’r amryddawn John Ogwen. Bydd hwn yn gyfle i fwynhau pryd tri chwrs a diddanwch gan un o ddoniau amlycaf Cymru yn yr adeilad hanesyddol a hyfryd hwn.

Ac am rywbeth hollol wahanol, ar benwythnos tân gwyllt, bydd Siân Melangell Dafydd yn cynnal cwrs ar Ysgrifennu a Ioga. Yn amserol iawn, tân fydd thema’r penwythnos, ac mae’n addo i fod yn gwrs chwareus ac arbrofol fydd yn ymdrechu i losgi pob rhwystr creadigol.

Yn ogystal bydd Aled Jones Williams yn ailgychwyn arwain Grŵp Darllen Tŷ Newydd yn yr hydref, sef grŵp sy’n cwrdd yn y ganolfan i drafod straeon byrion a darnau llenyddiaeth Cymraeg gosod.

Cyn i’r flwyddyn ddod i ben, byddwn yn croesawu naw o enillwyr prif wobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 i Dŷ Newydd ar gyfer Cwrs Olwen. Cynhelir y cwrs mewn partneriaeth â’r Urdd, a gyda chyfraniad ariannol hael gan deulu’r diweddar Olwen Dafydd. Bydd enillwyr y Goron, y Gadair a’r Fedal Ddrama yn cael dod ar y cwrs penwythnos yn rhad ac am ddim, ynghyd â’r rhai sy’n dod yn ail a thrydydd yn y cystadlaethau hynny. Bwriad y cwrs yw annog yr awduron ifanc i barhau â’u hysgrifennu gydag arweiniad gan awdur neu fardd profiadol, yn ogystal â dod i adnabod eu cyd-ysgrifenwyr yn y ganolfan ysgrifennu genedlaethol.

Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni yn Nhŷ Newydd yr hydref hwn, ewch ati i ddarllen am ein cyrsiau ar ein gwefan, ac i archebu eich lle – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, i archebu eich lle, neu am wybodaeth am Dŷ Newydd yn gyffredinol, cysylltwch â Tŷ Newydd: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811 /www.tynewydd.cymru / @Ty_Newydd 

Tŷ Newydd