Dewislen
English
Cysylltu

Cyhoeddi nofel arobryn Alys Conran fesul darn yn y Western Mail

Cyhoeddwyd Iau 14 Rhag 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llun: Llenyddiaeth Cymru + Camera Sioned

Ar ddydd Mawrth 19 Rhagfyr, bydd papur y Western Mail yn dechrau eu cyhoeddiad fesul adran o nofel arobryn Alys Conran, Pigeon (Parthian Books). Mae Pigeon yn daith drwy atgofion anesmwyth plentyndod ac yn stori am obaith a phŵer iaith. Cyrhaeddodd Pigeon restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2017, a daeth yn fuddugol yng Ngwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Gwobr Barn y Bobl Saesneg a’r Brif Wobr Saesneg yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2017. Gallwch ddarllen am lwyddiannau’r gyfrol yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn yma.

Yn Pigeon, mae Iola a Pijin yn dyfeisio straeon er mwyn profi ei gilydd: straeon o antur a heriau, o bobl ddrwg a Gwyn sy’n gyrru’i fan hufen ia i fyny’r allt i’w tref bob wythnos. Mae Gwyn yn ddyn peryglus fel y gwybu Pijin ond dydy Iola ddim yn siŵr. Wrth iddynt dyfu fyny mae eu cyfeillgarwch yn tyfu’n gymhleth, mae rhai o’i straeon yn mynd ar goll ond eraill yn dod yn wir. Mae gwaith Alys Conran wedi cyrraedd rhestrau hirion a byrion sawl cystadleuaeth gan gynnwys The Bristol Short Story Prize, The Manchester Fiction Prize ac The International Dylan Thomas Prize. Astudiodd ar gyfer gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caeredin ac wedi arwain gweithdai ysgrifennu creadigol ymhlith grwpiau ymylol yng Ngogledd Cymru. Mae wedi derbyn ysgoloriaeth er mwyn ysgrifennu ei hail nofel.

Cadwch lygad allan am eitem am Alys Conran yn y Western Mail ar 19 Rhagfyr 2017.

Llyfr y Flwyddyn