Dewislen
English
Cysylltwch

Adolygiad Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017

Cyhoeddwyd Gwe 5 Mai 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Adolygiad Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017

Cefnogaeth aruthrol i’r gwobrau

Ym mis Ionawr 2017 fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru ei fod wedi comisiynu adolygiad o Wobrau Llyfr y Flwyddyn. Yn wyneb heriau ariannol cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, comisiynwyd yr adolygiad hwn i edrych ar fodelau busnes a gweinyddu’r gwobrau, gyda’r bwriad o adnabod modelau newydd, cynaliadwy a fyddai’n cynorthwyo’r sefydliad i barhau i’w rhedeg a’u datblygu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r adolygiad, a gyflawnwyd gan y cwmni cyfathrebu creadigol Mela, bellach wedi’i gwblhau, ac rydym yn hynod falch o nodi fod y darganfyddiadau yn tystio bod cefnogaeth anhygoel i wobr Llyfr y Flwyddyn ymysg y cyhoedd ac ymysg partneriaid, noddwyr a rhanddeiliaid y Gwobrau. Roedd y cyfranogwyr yn unfrydol eu barn fod Llyfr y Flwyddyn yn taro golau ar y diwydiant llenyddol yng Nghymru, a’i fod yn un o elfennau pwysicaf y byd llenyddol.

 

Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017

Wedi cael cyfle i asesu darganfyddiadau’r arolwg, mae Llenyddiaeth Cymru wedi cadarnhau ei fod yn y broses o drefnu Llyfr y Flwyddyn 2017, a fydd yn gwobrwyo’r llyfrau gorau a gyhoeddwyr yn 2016 mewn seremoni wobrwyo yn yr hydref. Fe gyhoeddir rhagor o wybodaeth yn yr haf.

Mae Gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn codi proffil llenyddiaeth Cymreig yma yng Nghymru a thu hwnt, ac mae’n galonogol darganfod fod adroddiad hwn yn adlewyrchu hynny. Mae cyfraniadau i’r adolygiad yn nodi fod parodrwydd ymysg partneriaid a rhanddeiliaid i ddarparu rhagor o gymorth i Llenyddiaeth Cymru wrth drefnu, cynnal a hyrwyddo Gwobrau Llyfr y Flwyddyn, a bod brwdfrydedd amlwg tuag at wella partneriaethau presennol.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn ymgynghori â phartneriaid yn yr wythnosau nesaf i drafod trefniadau Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 yn ogystal â modelau posib ar gyfer gwobrau’r dyfodol.

Ymysg yr argymhellion mae: symleiddio’r broses o feirniadu trwy gyflwyno cyfnod o hidlo llyfrau; codi ffi ar gyfer cyflwyno llyfrau; datblygu cynllun denu noddwyr; cydweithio gwell ar draws y sector er mwyn cynnal digwyddiad mawreddog; ac archwilio ffyrdd o ddatblygu’r noson wobrwyo.

“Rydym yn hynod o falch fod yr adroddiad hwn wedi cadarnhau ein rhagdybiaeth fod Gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn nodwedd hollbwysig ac yn uchafbwynt blynyddol i ddarllenwyr Cymru yn ogystal ag i’r rheini sy’n ymwneud â’r diwydiant llenyddol. Edrychwn ymlaen at gael partneriaid ynghyd i drafod sut y gallwn weithredu’r argymhellion hyn a chydweithio i ddatblygu’r gwobrau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn llwyddiannus am flynyddoedd i ddod.”

– Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru

Llyfr y Flwyddyn

Adolygiad Gwobr Llyfr y Flwyddyn Ebrill 2017

Darllenwch yr adolygiad i Wobr Llyfr y Flwyddyn yma.

Adolygiad Gwobr Llyfr y Flwyddyn Ebrill 2017
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 300KB