Dewislen
English
Cysylltwch

Ar eich marciau, barod, ewch: #Her100Cerdd 2019

Cyhoeddwyd Iau 26 Medi 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ar eich marciau, barod, ewch: #Her100Cerdd 2019
#Her100Cerdd yn dychwelyd i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Her 100 Cerdd yn dychwelyd unwaith eto eleni, a hynny am y seithfed tro. Yn unol â’r arfer, mae pedwar bardd wedi eu herio i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.

Y pedwar dewr eleni yw Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker.

Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae timoedd y gorffennol wedi cyrraedd y nod gydag eiliadau’n unig yn weddill. Tybed a fydd criw 2019 yn llwyddo i ddilyn eu hesiampl a chyflawni her farddonol fwya’r flwyddyn?

Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant. Gwahoddir chi, y cyhoedd, i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.

Ymysg y 500 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi ar gerddoriaeth a cherddi ar y cyd; cerddi am borc peis, babanod newydd a hyd yn oed ffrae epig rhwng John ac Alun a’r Brodyr Gregory!

Pedair wal greadigol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fydd cartref y beirdd dros gyfnod yr Her. Caiff y ganolfan ei rhedeg gan Llenyddoaeth Cymru, ac mae’r awen yn cuddio ym mhob twll a chornel o’r tŷ.

Bydd y tîm yn cychwyn arni am hanner dydd ar ddydd Mercher 2 Hydref, ac yn rhoi’r atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd, dydd Iau 3 Hydref. Ar y diwrnod hwnnw, 3 Hydref, fe gynhelir Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Bydd y cerddi oll yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar www.llenyddiaethcymru.org yn syth ar ôl eu cwblhau er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn eu cynnydd.

 

Ymunwch yn yr Her 100 Cerdd…

…gyda cheisiadau neu anogaeth trwy ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd ar Twitter, neu trwy yrru neges at Llenyddiaeth Cymru ar Facebook neu dros e-bost at post@llenyddiaethcymru.org. Bydd dolen i’r cerddi yn cael eu postio fesul un ar gyfrif Twitter @LlenCymru ac ar ein tudalen Facebook:  www.facebook.com/LlenCymruLitWales

Y Beirdd

Beth Celyn

Mae Beth Celyn yn artist creadigol o Ddinbych sydd wrthi’n datblygu ei gyrfa fel bardd a cherddor yng Nghaerdydd. Astudiodd radd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn King’s College London a graddiodd o Brifysgol Bangor yn ddiweddar gyda MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Cafodd ei EP Troi ei gyhoeddi ar label Sbrigyn Ymborth yn Rhagfyr 2017 ac mae hi wedi cydweithio ar nifer o brosiectau gyda BBC Gorwelion, recordio gyda’r band gwerin Vrï ac wedi ysgrifennu sioe gerdd wreiddiol ar gyfer theatr Sbarc-Galeri. Teithia Beth yn aml ar hyd a lled Cymru fel aelod o’r colectif barddol Cywion Cranogwen. Roedd yn fardd y Mis ar BBC Radio Cymru Tachwedd 2018 ac eleni fe fuodd hi’n fardd comisiwn Y Wobr Aur Bensaernïaeth yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.

dref 2018.

 

Dyfan Lewis

Magwyd Dyfan Lewis yng Nghraig-cefn-parc, Abertawe. Aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg, ac mae’n parhau i fyw yn y brifddinas. Cyhoeddodd bamffled o gerddi, Mawr, yn 2019.

 

 

Elinor Wyn Reynolds

Un o Gaerfyrddin yw Elinor Wyn Reynolds. Mae hi’n fardd, yn awdur, dramodydd a golygydd llyfrau. Mae hi’n perfformio’i gwaith yn gyson a thros y blynyddoedd mae wedi bod yn rhan o sawl taith farddoniaeth: Dal Clêr, Taith Glyndŵr a Lliwiau Rhyddid, a bu’n un o griw beirdd y SiwpyrStomp yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae gan Elinor brofiad helaeth o weithio fel golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion ac i blant ar gyfer sawl gwasg, ac mae’n cynnal gweithdai barddoniaeth i blant ac oedolion hwnt ac yma yn ogystal.

 

Matthew Tucker

Daw Matthew Tucker o Bontarddulais ond mae bellach yn byw ym Mhorth Tywyn. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac mae bellach yn astudio gradd MA mewn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol yn ogystal â chychwyn ar gwrs TAR Uwchradd Cymraeg ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Bu Matthew ar un o gyrsiau cynganeddu Tŷ Newydd dan nawdd Cronfa Gerallt (Barddas).