Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn lansio sialensau wythnosol i blant Cymru

Cyhoeddwyd Llu 30 Maw 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn lansio sialensau wythnosol i blant Cymru
Bob bore Llun, yn dechrau heddiw (dydd Llun 30 Mawrth), bydd Gruffudd Owen ac Eloise Williams yn gosod sialens ysgrifennu wythnosol i blant Cymru.

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn lle mae llawer o weithdai a digwyddiadau wedi cael eu gohirio, mae’r sialensau’n ffordd i Gruffudd ac Eloise barhau i ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.

Rydym yn annog plant i anfon eu gwaith at y cyfeiriadau ebost yma:

barddplant@llenyddiaethcymru.org (Bardd Plant Cymru)

childrenslaureate@literaturewales.org (Children’s Laureate Wales)

Bydd pob un sy’n anfon cerdd neu stori atom yn derbyn cerdyn post wedi’i lofnodi’n arbennig iddynt gan Gruff neu Eloise, a bydd rhai ohonynt yn cael eu recordio a’u rhannu ar-lein fel y gall Cymru a’r byd i gyd glywed pa mor wych yw’r straeon.

 

Dyma’r sialensau ar gyfer wythnos #1:

Bardd Plant Cymru

I’ch ysbrydoli chi, dyma gerdd newydd gan Gruff:


Children’s Laureate Wales

Plant a Phobl Ifanc