Dewislen
English
Cysylltu

Bardd Plant Cymru yn Amgueddfa Wrecsam

Cyhoeddwyd Maw 19 Tach 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Arddangosfa Pêl-droed am byth! yn Amgueddfa Wrecsam

Mae Bardd Plant Cymru Gruffudd Owen yn Amgueddfa Wrecsam yr wythnos hon yn cynnal cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gydag ysgolion y dalgylch ar y thema Pêl-droed.

Mae’r gweithdai wedi’u trefnu mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru ag Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cydfynd gyda’r arddangosfa Pêl-droed am byth! sydd ar agor tan fis Ionawr 2020 ac sy’n cynnwys gwrthrychau a deunyddiau archifol o Gasgliad Pêl-droed Cymru.

Mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at hanes cyffrous pêl-droed Cymru trwy ei gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf, Trychineb Pwll Glo Aberfan, heriau teithio tramor, Gemau Olympaidd Paris 1924, cychwyn ffeministiaeth, anabledd a chwaraeon, pwysigrwydd un stryd arbennig yn Abertawe a man cychwyn y gêm yn nhref Wrecsam a phentref Rhiwabon.

Am ragor o wybodaeth am yr arddangosfa, ewch i wefan Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam yma.