Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru yn lansio Cist Cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

Cyhoeddwyd Mer 27 Medi 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Plant Cymru yn lansio Cist Cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar 28 Medi, bydd Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru 2017-2019, yn ymweld â’r ysgol newydd, Ysgol Dyffryn Cledlyn, er mwyn cynnal gweithdy a lansio’r Cist Cerddi.

Dywed Casia:Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at ddathlu’r diwrnod yng nghwmni’r plant. Mi fydd yn bleser pur cael clywed eu syniadau, tanio eu dychymyg, ac annog pawb i roi cynnig ar sgwennu cerdd.”

Detholiad o lyfrau barddoniaeth gan gyhoeddwyr Cymru a grëwyd er mwyn ennyn diddordeb mewn darllen ac ysgrifennu barddoniaeth ymhlith plant, pobl ifanc ac athrawon yw’r Gist Cerddi. Yn dilyn gweithdai Bardd Plant Cymru bydd cyfle i athrawon archebu casgliad o lyfrau a fydd yn parhau i danio diddordeb mewn barddoniaeth wedi ymweliad Bardd Plant Cymru.

Os hoffech drefnu ymweliad gan Fardd Plant Cymru ebostiwch barddplant@llenyddiaethcymru.org

Caiff y cynllun ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru a’i gefnogi gan Llywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac S4C.