Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss

Cyhoeddwyd Mer 1 Maw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss
© IWM (Q 2711)
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen ryngwladol i goffau marwolaeth Hedd Wyn a llenorion eraill y Rhyfel Byd Cyntaf, megis y bardd o Iwerddon, Francis Ledwidge a fu farw, fel Hedd Wyn, ar 31 Gorffennaf 1917.

Bwriad y prosiect hwn yw cydweithio gyda Fflandrys i greu digwyddiadau celfyddydol er mwyn nodi a deall mwy am bwysigrwydd y canmlwyddiant. Byddwn yn defnyddio llenyddiaeth, celfyddyd a hanes i sbarduno trafodaeth am themâu cyfoes sy’n atseinio rhai oedd mor arwyddocaol gan mlynedd yn ôl ag y maent heddiw.

Caiff y prosiect, a enwir yn Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn ffigwr blaenllaw yn Barddoniaeth Colled, a fydd yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys noswaith o ddarlleniadau a thrafodaeth ym Mrwsel, preswyliadau llenyddol yn Fflandrys a Chymru, perfformiad barddoniaeth aml-gyfrwng wedi ei gomisiynu’n arbennig, a mwy.

Mae canrif union eleni ers Trydedd Brwydr Ypres (Passchendaele), lle bu farw miloedd o filwyr ac yr anafwyd oddeutu 3,000 o’r 38ain Adran (Gymreig). Un o’r rhai a laddwyd oedd Hedd Wyn (neu Ellis Humphrey Evans), y bardd o Feirionnydd a fu farw cyn clywed ei fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Gorchuddiwyd cadair wag yr Eisteddfod â chynfas ddu a chofir Hedd Wyn hyd heddiw, yn Fflandrys fel yng Nghymru, fel symbol grymus o’r tywallt gwaed a’r gwastraff a fu. Yn rhyfeddol lluniwyd y Gadair Ddu gan ffoadur rhyfel o Fflandrys o’r enw Eugeen Vanfleteren.

Mae cymariaethau trawiadol rhwng stori Hedd Wyn a bardd ifanc o Iwerddon, Francis Ledwidge. Bu farw’r ddau ar yr un dydd ac maent ill dau wedi eu claddu ym mynwent Artillery Wood. Bydd y cymariaethau yma’n cael eu harchwilio, ynghyd â themâu megis ffoaduriaid a dwyieithrwydd mewn gweithdai gyda phobl ifanc fydd yn cael eu cynnal yn Iwerddon yn ddiweddarach eleni.

Mae Barddoniaeth Colled a rhaglen ehangach Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, yn gyfle i Gymru atgyfnerthu ei chysylltiadau diwylliannol gydag Ewrop ac i hyrwyddo’i threftadaeth ddiwylliannol i gynulleidfaoedd newydd. Mae gan y rhaglen ehangach gysylltiadau gyda’r Almaen, Ffrainc, Gwlad Belg, Iwerddon a chyda’r gymuned Dwrcaidd i gofio Ymgyrch Gallipoli.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Yn ogystal â chofio am y miloedd a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae hwn hefyd yn gyfle i ystyried rôl ffoaduriaid yn ein cymdeithas ac ystyried sut y derbyniodd ffoaduriaid o Wlad Belg groeso cynnes yng Nghymru ac Iwerddon yn ystod y rhyfel.”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae canmlwyddiant Passchendaele, ble lladdwyd Hedd Wyn a chymaint o filwyr eraill o Gymru, yn rhan allweddol o raglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau a gaiff eu trefnu gan Llenyddiaeth Cymru yn gyfle i ystyried aberth enfawr y milwyr yn ogystal â thanlinellu colli rhai o’n unigolion mwyaf talentog a chreadigol. Mae’n hollbwysig fod cenedlaethau’r dyfodol yn deall effaith y rhyfel ofnadwy hwn ar gymaint o agweddau ar fywyd Cymru.”

Bydd Barddoniaeth Colled yn cynnwys:

  • Dau breswyliad llenyddol, un yn Passa Porta, Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel, a’r llall yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy;
  • Noswaith o ddarlleniadau a thrafodaeth yn Passa Porta, Brwsel ar 23 Mai gyda Patrick McGuinnes, Ifor ap Glyn a llenorion o Fflandrys;
  • Digwyddiadau coffaol yn Iwerddon;
  • Cynhyrchu perfformiad barddonol aml-gyfrwng newydd a fydd yn teithio Cymru yn hydref 2017.

Cyhoeddwyd manylion y Preswyliad Llenyddol ym Mrwsel yn ddiweddar gan Lenyddiaeth Cymru. Bydd y preswyliad yn agored i awduron o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru; sy’n ysgrifennu yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yr awdur buddugol yn gweithio o ganolfan Passa Porta yng nghanol Brwsel rhwng dydd Llun 8- dydd Sul 28 Mai 2017. Mae manylion llawn y ar sut i wneud cais ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Barddoniaeth Colled, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.

Uncategorized @cy