Dewislen
English
Cysylltwch

Rhaglen Gwyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd

Cyhoeddwyd Llu 19 Chw 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhaglen Gwyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd

Lansiodd Gŵyl Llên Plant Caerdydd ei gwefan swyddogol heddiw, sy’n cynnwys manylion am raglen gyffrous o ddigwyddiadau mewn lleoliadau ledled Caerdydd fis Ebrill.

 

O ddydd Sadwrn 21 Ebrill tan ddydd Sul 29 Ebrill, bydd cyfle i blant o bob oedran fwynhau a chael eu hysbrydoli gan restr o awduron a darlunwyr adnabyddus, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yr ŵyl arobryn yn cynnwys dros 40 o ddigwyddiadau, bydd yn cael eu cynnal yn rhai o leoliadau mwyaf eiconig y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Stori Caerdydd.

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu bod gan blant a phobl Ifanc yr hawl i leisio’u barn ac adrodd eu hanesion. Rydym wedi ein hamgylchynu gan straeon a geiriau, a gall geiriau ysgrifenedig a llafar ddiddanu, ysbrydoli a rhoi grym i ni, gan droi’r cyffredin yn rhyfeddol. Mae ein partneriaeth barhaus â Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn atgyfnerthu ein ymrwymiad tuag at y gwerthoedd hyn.

 

Mae tocynnau pob digwyddiad yn cael eu gwerthu’n unigol, gyda niferoedd cyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer pob digwyddiad, felly argymhellir archebu o flaen llaw i osgoi siom.

 

Tocynnau: https://www.ticketsource.co.uk/kidslitfest

Plant a Phobl Ifanc