Dewislen
English
Cysylltwch

Castell Caerdydd yn Croesawu un o Arwyr LEGO® Roald Dahl ar Ddiwrnod Dahl – 13 Medi 2017

Cyhoeddwyd Iau 7 Medi 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Castell Caerdydd yn Croesawu un o Arwyr  LEGO® Roald Dahl ar Ddiwrnod Dahl – 13 Medi 2017

Mae chwech o arwyr ifanc Roald Dahl yn barod i’w dadorchuddio, mewn lleoliadau godidog ar draws y DU, fel modelau LEGO® unigryw i nodi Diwrnod Dahl – y dathliad byd eang ar gyfer un o brif storïwyr y byd. Mae Diwrnod Dahl yn ddigwyddiad blynyddol o amgylch achlysur pen-blwydd yr awdur ar 13 Medi.

Mewn partneriaeth ag Ystâd Lenyddol Roald Dahl a Chyngor Caerdydd, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Castell Caerdydd yn cynnig cartref i James, arwr anturus nofel gyntaf Roald Dahl i blant, James and the Giant Peach. Cynhaliodd dinas Caerdydd, man geni Roald Dahl, nifer o ddigwyddiadau i ddathlu Roald Dahl 100 yn 2016, oedd yn cynnwys ei thrawsnewidiad ar gyfer Roald Dahl’s City of the Unexpected ym mis Medi.

Bydd hanes adeiladu LEGO® James yn cael ei ddadorchuddio ar Ddiwrnod Dahl – 13 Medi. Cafodd ei greu allan o 30,200 o frics a chymerodd 160 o oriau i’w adeiladu. I gyd-fynd a’r dadorchuddiad, mae Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu gweithdy ar gyfer disgyblion ysgolion lleol gyda Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam. Bydd y plant yn cael eu hysbrydoli gan arwyr Roald Dahl er mwyn creu eu straeon eu hunain.

 

Bydd James yn aros yng Nghastell Caerdydd am ddeufis. Mae Castell Caerdydd ar agor rhwng 9.00 am a 6.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, gyda thâl mynediad. Gofynnwn i ymwelwyr rannu eu lluniau o James trwy ddefnyddio #LegoJames, #DiwrnodDahl a #RoaldDahlDay ar Twitter, Facebook ac Instagram.

Bydd James a’i gyd-arwyr LEGO® Roald Dahl yn un o uchafbwyntiau amlwg dathliadau Diwrnod Dahl 2017, sydd eleni’n amlygu arwyr ifanc eiconig Roald Dahl. Mae’r arwyr ifanc yn ei straeon yn unigolion arbennig tu hwnt, yn llawn ysbryd gwrthryfel iach a gwydnwch. Roedd Roald Dahl, trwy gydol ei yrfa, yn bencampwr ar gyfer plant. Pa ARWR Roald Dahl yw’ch ffefryn CHI?

Mae pob un o’r chwe cymeriad Roald Dahl wedi eu hadeiladu gan Duncan Titmarsh – unig adeiladwr LEGO® proffesiynol ardystiedig y DU – a’i dîm yng ngweithdy Bright Bricks yn Bordon, Hampshire.

 

“Rydym ni’n hynod o falch o groesawu James – pob un fricsen ohono – i Gaerdydd yr hydref hwn. Gobeithiwn y bydd LEGO® James yn annog ymwelwyr i ddarllen llyfrau anturus Dahl, i ddisgyn mewn cariad gyda’r arwyr ifanc, a chael eu hysbrydoli i greu rhai eu hunain; fesul bricsen a fesul gair.”

– Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru

Meddai Bernie Hall o Ystâd Lenyddol Roald Dahl:

“Rydym wrth ein bodd fod James ar ei ffordd i Gastell Caerdydd. Mae’n lleoliad perffaith iddo ac yn nodi’r cyswllt cryf rhwng Roald Dahl a Chymru. Mae’n ffordd wych o ddathlu JAMES a holl arwyr ifanc anhygoel Roald Dahl ar Ddiwrnod Dahl.”

Uncategorized @cy