Dewislen
English
Cysylltwch

Catherine Fisher a’i nofel The Clockwork Crow yn cipio Gwobr Llenyddiaeth Plant Tir na n-Og 2019

Cyhoeddwyd Iau 16 Mai 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Catherine Fisher a’i nofel The Clockwork Crow yn cipio Gwobr Llenyddiaeth Plant Tir na n-Og 2019

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd eleni yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd ar 16 Mai, fel rhan o Gynhadledd CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol Cymru), cyflwynwyd y wobr i Catherine Fisher am ei nofel The Clockwork Crow, a gyhoeddir gan Wasg Firefly.

Bob blwyddyn ers ei sefydlu ym 1976, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dathlu’r teitl Saesneg gorau ac iddo gefndir Cymreig dilys.

Mae The Clockwork Crow yn stori afaelgar am swyn a pherthyn, wedi’i gosod mewn plasty rhewllyd dan eira yng nghanolbarth Cymru. Ar noson oer iawn mewn gorsaf reilffordd Fictoraidd, mae dieithryn yn rhoi parsel papur newydd i Seren Rhys ond does ganddi’r un syniad am gynnwys helbulus y pecyn dan sylw.

Mae Catherine Fisher yn fardd ac yn awdur llyfrau plant o fri sy’n byw yng Nghasnewydd. Enillodd gradd mewn Saesneg o Brifysgol Cymru a bu’n gweithio ym meysydd addysg ac archeoleg a hefyd fel darlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n Gymrawd yr Academi Gymreig ac yn 2013, fe’i penodwyd yn Awdur Ieuenctid Cymru.

Mae Catherine wedi ennill nifer o wobrau a llawer o glod beirniadol am ei gwaith gan gynnwys Gwobr Tir Na n-Og 1995 am The Candleman. Yn 2018, dyfarnwyd The Clockwork Crow gan Wales Arts Review fel enillydd Llyfrau Cymru ar gyfer Pobl Ifanc, ac eleni fe’i rhoddwyd ar restr fer Gwobrau Llyfrau Blue Peter.

Nododd Sioned Jacques, Cadeirydd Panel Saesneg Tir na n-Og, “Yn nhyb y panel, mae’r nofel hon yn ddychmygus, yn ddisgrifiadol ac yn swynol ac mae’n adleisio llawer o deitlau clasurol tebyg i The Chronicles of Narnia, C. S. Lewis. Ac eto, mae’n unigryw ac yn nodweddiadol o’r safon uchel a ddisgwylir gan awdur eithriadol o dalentog fel Catherine Fisher.”

Ychwanegodd, “Mae’r prif gymeriad wedi’i ysgrifennu mewn ffordd sy’n creu awydd yn y darllenydd i fod yn hi ac i uniaethu â hi. Mae’r llyfr wedi’i olygu’n dda gyda darluniau prydferth ac mae’n cynnwys rhai disgrifiadau atmosfferig iawn o gefn gwlad Cymru.”

Dywedodd Catherine Fisher, “Rwy’n falch iawn o ennill Gwobr Tir na n-Og. Mae The Clockwork Crow yn nofel sy’n gwneud defnydd o lên gwerin Cymru a’r tirlun Cymreig. Ond rwy’n gobeithio hefyd y bydd yn apelio at bob darllenydd ym mhob man, fel y dylai pob ffuglen ddychmygus.”

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, “Roedd yr holl deitlau ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Tir na n-Og o safon eithriadol uchel eleni. Mae hynny’n adlewyrchu ansawdd y llyfrau sydd ar gael i blant ac oedolion ifanc ar hyn o bryd. Hoffwn estyn ein llongyfarchiadau gwresocaf i Catherine Fisher a Gwasg Firefly ar eu camp.”

Noddir Gwobr Saesneg Tir na n-Og – sy’n cydnabod ansawdd eithriadol llyfrau Saesneg i blant a phobl ifanc ac iddynt gefndir Cymreig – gan CILIP Cymru.

Dechreuodd y digwyddiad gyda thrafodaeth banel ddifyr yng nghwmni pob un o’r llenorion ar y rhestr fer, ac fe’i cadeiriwyd gan y darlledwr a’r awdur Lucy Owen. Gwahoddwyd criw o ddarllenwyr ifanc brwd i holi’r awduron fel rhan o’r cynllun cysgodi eleni. Roedd pecynnau adnoddau am ddim hefyd ar gael ar-lein fel y gallai ysgolion ymddwyn fel beirniaid answyddogol.

Datgelir y teitlau Cymraeg buddugol yn y categorïau cynradd ac uwchradd ar 30 Mai yng Nghanolfan y Mileniwm fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.