Children’s Laureate Wales a Diwrnod y Llyfr 2020
Cyhoeddwyd Iau 5 Maw 2020

Diwrnod y Llyfr 2020 yn Ysgol Gynradd Nercwys
Daeth Llenyddiaeth Cymru a Theatr Clwyd ynghyd heddiw i ddathlu Diwrnod y Llyfr drwy gynnal diwrnod o weithdai ysgrifennu creadigol a chelf i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Nercwys yn Sir y Fflint.
Bu Children’s Laureate Wales, Eloise Williams ac artist gweledol preswyl Theatr Clwyd, Gwenno Eleri Jones yn gweithio gyda disgyblion yr ysgol i gyfansoddi darnau o ffuglen fflach cyn creu llyfrau consertina llawn printiau wedi’u hysbrydoli gan y straeon.
Mae’r diwrnod yn rhan o wythnos o weithdai i Eloise yng ngogledd Cymru wrth iddi barhau â’i gwaith o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.
Bydd y straeon a’r llyfrau ar gael i’w gweld yng ngofod arddangos ‘Ystafell Clwyd’ yn Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug o 9-13 Mawrth.