Dewislen
English
Cysylltwch

Cofio Hedd Wyn (1887 – 1917)

Cyhoeddwyd Llu 31 Gor 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cofio Hedd Wyn (1887 – 1917)

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.

 – Hedd Wyn

Ar 31 Gorffennaf 1917, gan mlynedd yn union yn ôl, bu farw Ellis Evans, oedd yn adnabyddus dan yr enw barddol Hedd Wyn, yn ystod Brwydr Passchendaele. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 gyda’r gerdd ‘Yr Arwr’ dim ond ychydig wythnosau wedi ei farwolaeth. Datblygodd Bardd y Gadair Ddu i fod yn symbol o golledion enbyd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe nodir canmlwyddiant colli Hedd Wyn drwy gydol 2017 gydag amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys perfformiadau, sgyrsiau byw, lansiadau llyfrau, ac ail-agoriad hir-ddisgwyliedig Yr Ysgwrn, fferm deuluol y bardd, a gaiff ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri.

 

Barddoniaeth Colled

Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru raglen ryngwladol i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf gyda phwyslais ar hanes Hedd Wyn o’r enw Barddoniaeth Colled | Poety of Loss. Caiff y prosiect ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r prosiect blwyddyn o hyd yn cynnwys: noson o farddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth a thrafodaeth yn Passa Porta, Brwsel (gellir gweld lluniau o’r digwyddiad yma); Darlith Glyn Jones a draddodwyd gan Ifor ap Glyn yng Ngŵyl y Gelli 2017; cyfnewidfa breswyl (gwybodaeth isod); a sioe farddoniaeth amlgyfrwng Y Gadair Wag a gaiff ei llwyfannu ym mis Medi 2017 (gwybodaeth isod).

 

Preswyliad Llenyddol

Fel rhan o’r prosiect blwyddyn o hyd Barddoniaeth Colled | Poety of Loss, trefnwyd cyfle i fardd o Gymru gyflawni preswyliad llenyddol yn Passa Porta, Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel. Y bardd ac academydd Nerys Williams gyflawnodd y preswyliad ym Mrwsel, lle bu’n archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge, a fu farw hefyd ar 31 Gorffennaf 2017. Ysgrifennodd Nerys gyfres o gofnodion blog yn ystod ei phreswyliad, a gellir eu darllen yma: Blog 1; Blog 2; Blog 3.

Yn mis Tachwedd, bydd llenor o Fflandrys yn cyflawni preswyliad llenyddol yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy.

 

Y Gadair Wag

Gadawyd cadair wag ar nifer o aelwydydd ledled Ewrop yn sgil y Rhyfel Mawr, a dyma sioe farddoniaeth gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, sy’n edrych ar hanes Bardd y Gadair Ddu o’r newydd. Bydd y cynhyrchiad arbrofol hwn, wedi ei gyfarwyddo gan Ian Rowlands, yn cyfuno ffilm a barddoniaeth i archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth.

Yn y sioe, ceir cyfuniad o farddoniaeth a llythyrau Hedd Wyn, hanes y cyfnod, ac ambell gerdd gan gyfoedion fel Francis Ledwidge. Yn cydblethu â hyn fydd cerddi yn ymateb i’r hanes gan Ifor ap Glyn a beirdd cyfoes o Gymru, Iwerddon a Fflandrys. Bydd rhai yn cyfrannu ar ffurf cerdd- fideo.

Wedi iddi agor yn yr Ysgwrn, ar 9 Medi 2017, bydd  Y Gadair Wag ar daith drwy Gymru ac Iwerddon hyd ddiwedd mis Medi. Dyma sioe sy’n gwbl addas ar gyfer cynulleidfa Gymraeg neu Saesneg eu hiaith, gan fod modd taflunio cyfieithiad yn ystod y perfformiad.

Mae Ifor ap Glyn hefyd yn olygydd y gyfrol Canrif yn Cofio – Hedd Wyn 1917-2017 (Gwasg Carreg Gwalch), ac ar Ddydd Sul y Cofio 2016 tafluniwyd ei gerdd ‘Terasau’ ar Dŵr Elisabeth (Big Ben) fel rhan o weithgareddau’r Senedd Prydeinig. I ddarllen y gerdd, cliciwch yma.

Mae Y Gadair Wag yn rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss.

 

Yr Ysgwrn

Ar ddydd Llun 31 Gorffennaf, bydd Yr Ysgwrn yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y dydd i nodi canmlwyddiant marw Hedd Wyn. Bydd cyfle i brofi sioe Mewn Cymeriad Hedd Wyn, sioe deuluol sy’n dod a hanes Hedd Wyn yn fyw, am 11.00 am; Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn a beirdd eraill fydd yn cwrs am 2.00 pm i drafod rhai o’r cerddi hen a newydd a gyhoeddwyd yng nghyfrol ddiweddar Canrif yn Cofio – Hedd Wyn 1917 – 2017 (Gol. Ifor ap Glyn) ac am 3.00 pm ceir datganiadau yng nghwmni Sioned Wyn-Evans ac Aelwyd Penllyn.

 

Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am fynediad i’r ffermdy. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ysgwrn: 01766 772 508 / yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru

 

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Môn

Dyma restr o ddigwyddiadau cofio Hedd Wyn ar faes Eisteddfod Genedlaethol Môn rhwng 4 – 12 Awst, ganrif yn union wedi Eisteddfod Y Gadair Ddu.

 

Nos Wener 4 Awst, 8.00 pm, Y Pafiliwn
Cyngerdd Agoriadol A Oes Heddwch?

Dydd Llun 7 Awst, 12.30 pm. Y Babell Lên
Bywyd fy ewythr, Hedd Wyn: Mererid Hopwood yn holi nai Hedd Wyn, Gerald Williams.

 

Dydd Gwener 11 Awst, 14.30 pm, Llannerch
Hedd Wyn: Anni Llŷn ar sgriptio sioe newydd Cwmni Mewn Cymeriad

 

Dydd Gwener 11 Awst, 15.30 pm, Llannerch
I Wyneb y Ddrycin, Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a’r Rhyfel Mawr: Iola Wyn yn holi Haf Llewelyn (Cyhoeddiadau Barddas)

 

Dydd Gwener 11 Awst, 12.45 pm, Y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Môn
Sgwrs ‘Canrif yn Cofio Hedd Wyn’ yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a Myrddin ap Dafydd
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru drwy gynllun Llên ar Daith ar y Maes

Literature Wales