Dewislen
English
Cysylltwch

Cwrs Cynganeddu 2018: Barddas yn Noddi Bardd Ifanc

Cyhoeddwyd Gwe 16 Chw 2018 - Gan Tŷ Newydd
Cwrs Cynganeddu 2018: Barddas yn Noddi Bardd Ifanc
Tŷ Newydd - Emyr Young

Mae Barddas wedi cyhoeddi mai Morgan Owen yw’r bardd sydd wedi cael ei ddewis eleni i dderbyn nawdd o Gronfa Gerallt i fynychu Cwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Ebrill.

Mae Llenyddiaeth Cymru eisoes yn gyfarwydd â Morgan, wedi iddo fynychu Cwrs Olwen ym mis Rhagfyr 2017, a hynny am iddo ddod i’r brig yng nhystadlaethau barddoniaeth a rhyddiaith dan 25 yn Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno. Daw Morgan o Ferthyr Tudful ac erbyn hyn mae’n byw yn ninas Lerpwl. Ef hefyd sy’n gyfrifol am brosiect Rhithganfyddiad gydag Efa Lois – cyfuniad o gerddi a darluniau o Gaerdydd a thu hwnt. I ddysgu mwy amdano, ewch i ddarllen ei atebion i’n holiadur pum munud.

Morgan Owen

Dyma’r trydydd tro i’r cwrs preswyl ar y gynghanedd gael ei gynnal yn Nhŷ Newydd. Y Prifeirdd Tudur Dylan Jones ac Aneirin Karadog fu’n arwain y cwrs cyntaf, ag Eurig Salisbury Twm Morys yr ail yn 2017. Ymysg y disgyblion cyntaf yr oedd Iestyn Tyne, a ddaeth ar y cwrs fel dechreuwr yng nghrefft y gerdd dafod, ond a aeth ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifainc y gaeaf hwnnw gyda cherdd gaeth, ac amryw o Eisteddfodau ers hynny.

Meddai Aneirin Karadog, Cadeirydd Barddas: “Mae Barddas yn hynod o falch o allu parhau i noddi a chefnogi doniau ifanc y byd barddol Cymraeg. Drwy Gronfa Gerallt bu’n bosib i ni noddi Matthew Tucker, Mared Ifan a Iestyn Tyne i fynd ar Gwrs Cynganeddu Tŷ Newydd 2016 a’r llynedd cafodd Elan Grug Muse ei noddi drwy’r gronfa i gael mynd ar y cwrs preswyl yn y ganolfan ysgrifennu cenedlaethol yn Llanystumdwy.  Mi fydd Morgan Owen yn cael yr un fraint eleni ac mae’r ffaith y caiff ddysgu’r cynganeddion yn drwyadl dan diwtoriaeth y Prifeirdd Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones yn gyffrous ar y naw, gan bod Morgan Owen wedi dechrau gwneud enw i’w hun fel bardd gwreiddiol sydd â llais unigryw.  Edrychwn ymlaen felly i weld datblygiad barddol Morgan yn sgil bod ar y cwrs hollbwysig yma.  Mae’n bleser hefyd cael helaethu’r cysylltiadau a’r cydweithio rhwng Barddas, Tŷ Newydd a Llenyddiaeth Cymru.”

Bydd Morgan yn ymuno â hyd at bymtheg cyfranogwr arall sy’n awyddus i gael ymdrochiad yn y gynghanedd yng nghwmni’r tiwtoriaid Ceri Wyn Jones a Mererid Hopwood.

Cynhelir y Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd o ddydd Llun 23 – dydd Gwener 27 Ebrill. Mae pris y cwrs yn ddibreswyl yn cychwyn o £245, a cwrs â llety o £350. Mae ysgoloriaethau ar gael i drigolion Gwynedd.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru lle ar y cwrs, ewch i tynewydd.cymru neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811.