Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfle Datblygiad Personol gyda Thâl i Fardd

Cyhoeddwyd Iau 8 Tach 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfle Datblygiad Personol gyda Thâl i Fardd
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cyfle i fardd sy’n newydd i faes cynnal gweithdai i gyd-arwain prosiect ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-14 oed ar y cyd â bardd sy’n hwylusydd gweithdai profiadol, yn ardal De Powys.

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: 5pm, Dydd Mercher 21 Tachwedd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i gysgodi a chael eu mentora, yn ogystal ag ennill profiad o gyd-gynllunio prosiect (manylion tâl a thelerau isod). Prosiect dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) fydd hwn, ond croesewir ceisiadau gan feirdd sydd yn gweithio mewn un iaith yn unig.

Bydd cyfanswm o ddau ddiwrnod o weithdai mewn ysgol uwchradd yn Ne Powys (ym mis Rhagfyr- Ionawr 2019; dyddiadau i’w cadarnhau), ac un diwrnod ychwanegol ym Mae Caerdydd ar 19 Chwefror i gyflwyno cynnyrch y gweithdai i gynulleidfa.

Bydd y cyflwyniad hwn yn ffurfio rhan o ddigwyddiad mae Llenyddiaeth Cymru yn ei drefnu yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar ddydd Mawrth 19 Chwefror 2019: Diwrnod o Fyfyrio ar Farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru. Bydd rhaglen y dydd yn cynnwys darlleniadau, darlithoedd comisiwn, perfformiadau theatrig a chyflwyniadau sy’n deillio o weithdai gyda grwpiau gwahanol ar draws Cymru. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

 

I ymgeisio i fod yn rhan o’r prosiect hwn, anfonwch:

  1. Llythyr cais yn esbonio sut y gallech elwa o’r cyfle hwn a’ch cymhelliad dros ymgeisio;
  2. CV llenyddol, gan nodi profiadau perthnasol. Dylai beirdd nad ydynt wedi cyhoeddi eto anfon sampl byr o’u gwaith yn ogystal (noder nad yw profiad llenyddol eang yn faen prawf hanfodol).

 

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: 5pm, Dydd Mercher 21 Tachwedd

Yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu, telir ffi o £150 y dydd a chostau teithio (felly cyfanswm o £450 ynghyd â chostau teithio am y prosiect cyfan).

Bydd y cynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus yn amodol ar wiriad DBS boddhaol (Llenyddiaeth Cymru i dalu am y gwiriad).

Mae’n bosib bydd Llenyddiaeth Cymru eisiau trefnu sgwrs ffôn gyda’r ymgeiswyr ar y rhestr fer.

 

Anfonwch eich cais, neu unrhyw gwestiwn at post@llenyddiaethcymru.org

Neu ffoniwch 029 2047 2266.

Cyfleoedd