Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Mis Ionawr 2020

Cyhoeddwyd Mer 1 Ion 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd Mis Ionawr 2020

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar FacebookTwitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

Eisteddfodau – amrywiol

Mae amryw o gystadlaethau llenyddol yn cael eu cynnal mewn Eisteddfodau ar draws Cymru. Dyma restr gyfredol o ddyddiadau cau gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Dyddiadau Cau Rhagfyr a Ionawr

Encil Awduron Nant – Cyfredol

Croeso i Nant; hen fwthyn Gradd II* sydd wedi ei ail gynllunio’n arbennig ar gyfer encilion ysgrifennu. Wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae’r bwthyn hunan-arlwyo yma yn darparu hafan gyffyrddus a thawel i unrhyw un sydd angen canolbwyntio ar waith ar y gweill, ychwanegu’r manylion olaf un i’ch gwaith ysgrifennu, neu i ailgynnau eich creadigrwydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.tynewydd.cymru/nant/

Cwmni Cydweithredol Troed-y-rhiw

Mae Cwmni Cydweithredol Troed-y-rhiw yn awyddus i gomisiynu drama gan ddramodydd (neu ddramodwyr) addawol, i’w pherfformio o gwmpas ardal Tregaron pan fydd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal yno eleni.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ar Trydar neu drwy e-bostio swyddfa@theatrtroedyrhiw.com

Cyfle blynyddol i gyflwyno sgriptiau drama i BBC Writersroom –9 Rhagfyr 2019 – 6 Ionawr 2020

Mae modd cyflwyno sgript ddrama ffilm, teledu, radio, ar gyfer y wê, llwyfan, neu teledu/radio i blant. Dylai’r sgriptiau fod yn rhai gorffenedig (dim drafft cyntaf) ac o leiaf 30 tudalen o hyd. Ar ddiwedd y broses, bydd grŵp o awduron (rhwng 10 – 15) yn cael eu dewis i ymuno â grŵp datblygu BBC Drama Room 2020/21. Mae’r grŵp yn cwrdd tua unwaith y mis a bydd yr aelodau yn derbyn hyfforddiant sydd wedi ei dargedu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.bbc.co.uk/writersroom/opportunities/script-room

Gwobr Soho Theatre Verity Bargate 2020 – 10 Ionawr 2020

Gwobr Verity Bargate yw gwobr ysgrifennu newydd y Soho Theatre. Mae’r wobr yn agored i unrhyw ddramodydd sydd â llai na 3 cynhyrchiad theatrig eisoes ac sy’n byw yn y DU neu Iwerddon. Nid oes cyfyngiadau o ran pwnc. Mae sioeau cerdd a ffurfiau eraill o theatr yn gymwys, ond fe gaiff ei feirniadu ar safon y testun yn unig. Bydd yr enillydd yn derbyn £7,500 ar ffurf opsiwn ecsgliwsif i’r Soho Theatre gynhyrchu’r ddrama.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://sohotheatre.com/artists/writers/verity-bargate-award/

Gwobr Farddoniaeth Magma 2019/20 – 11 Ionawr 2020

Mae dwy gystadleuaeth o fewn y wobr hon. Mae un ar gyfer cerddi byrion hyd at 10 llinell, ac un ar gyfer cerddi rhwng 11 a 50 o linellau. Rhaid iddynt fod yn y Saesneg ac mae rhaid iddynt fod yn gerddi gwreiddiol. Nid yw cerddi sydd wedi eu cyhoeddi, hunan-gyhoeddi neu eu derbyn i’w cyhoeddi yn gymwys. Mae gwobrau’n amrywio o £150 I £1000.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://magmapoetry.com/competition/

Gwobr Mogford ar gyfer ysgrifennu am fwyd a diod – 13 Ionawr 2020

Mae’r wobr flynyddol hon ar agor i awduron o bedwar ban, ac mae wedi ei noddi gan Grŵp Gwestai a Bwytai Mogford. Er mwyn cystadlu bydd angen cyflwyno  stori fer heb fod dros 2,500 gair sy’n ymwneud mewn rhyw ffordd â bwyd neu diod. Bydd yr enillydd yn derbyn £10,000, ac yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 1 Ebrill 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.mogfordprize.co.uk/

Gwobr Alternarratives ar gyfer Arloesedd mewn Chwedleua – 13 Ionawr 2020

Mae gwobr Alternarratives yn wobr £15,000 ar gyfer awduron o’r DU i archwilio arloesedd mewn chwedleua byr. Yn y flwyddyn beilot hon, bydd y wobr yn annog adroddwyr i ddychmygu sut y gall ffuglen fer helpu ail-gysylltu pobl ifanc â darllen er pleser. Mae’r cyfle ar agor i awduron o bob math – annogir yn benodol awduron nad sy’n ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc. Y brif wobr yw £15,000, a bydd 10 awdur ar y rhestr fer yn derbyn ysgoloriaeth £1,000 i gyflawni prosiect a’r cyfle i fynychu gweithdy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.nesta.org.uk/project/alternarratives/

Gwobr Traethawd Calibre – 15 Ionawr 2020

Cyflwynir Gwobr Traethawd Calibre gan yr Australian Book Review ac mae’n agored i unrhyw awdur traethodau sy’n ysgrifennu yn Saesneg. I gystadlu, bydd angen draethawd sydd rhwng 2,000 a 5,000 o eiriau ar unrhyw bwnc. Croesawir unrhyw fath o draethawd – personol neu wleidyddol, llenyddol neu ddyfaliadol, traddodiadol neu arbrofol. Bydd yr enillydd yn derbyn $5,000 a’r nesaf i’r brig yn derbyn $2,500. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn fis Mai 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.australianbookreview.com.au/prizes-programs/calibre-prize

Lucy Cavendish College Fiction Prize – 17 Ionawr 2020

Mae’r wobr yn agored i ferched 21 oed sy’n byw yn y DU neu Iwerddon ac nad ydynt wedi cyhoeddi nofel. Gall y gwaith fod ar unrhyw bwnc. Derbynnir nofelau i oedolion ifanc neu blant os mai cynnwys llenyddol sydd iddynt yn bennaf; mae llyfrau lluniau wedi’u heithrio. I gystadlu, cyflwynwch 40-50 tudalen gyntaf eich nofel a chrynodeb o’r gweddill (3-5 tudalen). Bydd yr enillydd yn derbyn £1,500 a bydd pob ymgeisydd ar y rhestr fer yn derbyn ymgynghoriad un-i-un gydag asiant yn Peters Fraser Dunlop.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.lucy-cav.cam.ac.uk/fictionprize/

Cyflwyniadau Influx Press – 19 Ionawr 2020

Mae Influx Press yn chwilio am gynigion ffeithiol. Mae’n agored ar gyfer cyflwyniadau digymell gan fenywod ac awduron anneuaidd rhwng 5 a 19 Ionawr 2020.

Maent yn chwilio am lyfrau ffeithiol di-guro sy’n archwilio bywyd a diwylliant cyfoes yn y DU neu’r tu hwnt. Byddwch mor greadigol ag y gallwch gyda’r syniad o lyfrau ffeithiol. Fe anogir gwaith sy’n plygu genre, ac sy’n aflonyddu ac yn arloesi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.influxpress.com/submissions

Cystadleuaeth Stori Fer Cylchgrawn Cara – 25 Ionawr 2020

Mae’r wobr hon yn agored i ferched o bob oed, yn awduron newydd neu brofiadol. Y thema yw Adre/Adra/Cartref, a’r wobr yw £100 o nwyddau Adra. Y beirniaid yw Manon Steffan Ros, a bydd yr ennillydd a’r stori fuddugol yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn Gwanwyn Cara a fydd yn y siopau erbyn Mawrth. Mae modd cael mwy o drwy yrru e-bost: cylchgrawncara@gmail.com neu yma

Dyfarniad Ddoethurol: Writing Pain – 27 Ionawr 2020

Dyma gyfle i fyfyrwyr o’r DU a’r UE i ymgeisio am PhD gyda’r South, West and Wales Doctoral Training Partnership.

Partneriaeth yw Writing Pain rhwng adran rheoli poen Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, adran Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Ymchwil Gwybyddol Reading.

Mae’r prosiect yn edrych ar ymyrraeth ymarferol i reoli poen, ac yn fwy penodol ar ddefnyddio ysgrifennu creadigol fel adnodd i gyfathrebu, cofnodi a rheoli cyflyrau poen cronig. Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan ymchwil academaidd sy’n cael ei gynnal ar y ffordd mae poen yn cael ei weld a’i drafod gan unigolion a’r gymdeithas. Fel myfyriwr PhD, buasech yn cynorthwyo gyda trefnu a chefnogi’r gwaith yma, a fyddai’n cynnwys ymchwil ymarferol, gweithio gyda meddygon yn ogystal â gweithio gyda’r cleifion.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jacqueline Yallop, Uwch-ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth: jay4@aber.ac.uk

Mae modd ymgeisio ar wefan South, West and Wales Doctoral Training Partnership drwy ddilyn y linc isod:

https://www.sww-ahdtp.ac.uk/

Ysgoloriaeth Greadigol Weston Jerwood 2020 – 30 Ionawr 2020

Mae modd i fudiadau Diwylliannol a Chelfyddydol ar draws y DU ymgeisio nawr i fod yn rhan o raglen Ysgoloriaeth Greadigol Weston Jerwood 2020 – 2022.  Bwriad y rhaglen yw i roi cyfleoedd yn y sector gelfyddydol i unigolion talentog o gefndiroedd economaidd a chymdeithasol sydd wedi eu tangynrychioli. Mae Jerwood Arts yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth gyda 50 o wahanol fudiadau a fyddai’n croesawu unigolion i ymuno â hwy. Bydd yr unigolion yn cael ymgymryd â lleoliad taledig a fyddai’n para blwyddyn o hyd a bydd y sefydliadaau yn cael budd o groesawu’r unigolion atynt.

Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth:

https://jerwoodarts.org/projects/weston-jerwood-creative-bursaries-2020-22/

Galwad am gyfraniadau Y Stamp – Chwefror 2020

Yn Chwefror 2020 mi fydd gwefan Y Stamp yn edrych ar argyfwng yr hinsawdd, a sut gall artistiaid a sgwennwyr ddychmygu dyfodol newydd. Maent yn edrych am ymatebion radical a syniadau cyffroes. Os â diddordeb, ewch draw i wefan Y Stamp am fwy o wybodaeth.

Europa28 Gŵyl y Gelli : beth mae Ewrop yn ei olygu i chi? – 1 Chwefror 2020

Mae Europa28 yn brosiect byd-eang a gynhelir gan Ŵyl y Gelli. Mae’r prosiect yn ymchwilio i ddyfodol Ewrop, ac yn dathlu rhai o unigolion mwyaf creadigol y Cyfandir. Mae 28 o awduron benywaidd o 28 gwlad Ewropeaidd wedi eu comisiynnu i rannu eu gweledigaethau ar gyfer  traethodau a darlithoedd newydd y bydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://www.hayfestival.com/europa28/competition

Gwobr Ysgrifennu am Fywyd Spread the Word – 3 Chwefror 2020, 11.00 am

Mae Gwobr Ysgrifennu am Fywyd Spread the Word yn agored i awduron sy’n byw yn y DU, sydd dros 18, sydd heb gyhoeddi gwaith ac nac sydd ag asiant llenyddol. Mae’r Wobr yn diffinio Ysgrifennu am Fywyd fel gwaith ysgrifenedig sy’n ffeithiol ond “â’r bwriad o fod yn wir”, ac sy’n adlewyrchu ar siwrne bywyd neu brofiadau personol. Bydd yr enillydd yn derbyn £1,000, mentor ysgrifennu, cwrs Arvon (yn ddibynol ar argaeledd), aelodaeth dwy flynedd gyda’r Royal Society of Literature, a chyfarfod datblygu gydag asiant a golygydd. Bydd dau awdur sy’n derbyn cymeradwyaeth uchel yn derbyn £500 yr un, dau sesiwn mentora a chyfarfod datblygu gydag asiant a/neu olygydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.spreadtheword.org.uk/projects/life-writing-prize/

Cystadleuaeth Stori Fer ‘Writers & Artists’ – 13 Chwefror 2020

Mae cystadleuaeth stori fer flynyddol ‘Writers & Artists ’yn rhoi cyfle i chi ennill lle ar un o gyrsiau ysgrifennu preswyl Arvon (gwerth £ 1000, wedi ei leoli yn Lloegr) a chael eich stori wedi’i chyhoeddi ar www.writersandartists.co.uk. I gystadlu, cyflwynwch stori fer i oedolion heb fod dros 2,000 o eiriau ar thema o’ch dewis chi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.writersandartists.co.uk/competitions

Gwobr Ysgrifennu Newydd Papatango 2020 – 17 Chwefror 2020

Gwobr Ysgrifennu Newydd Papatango 2020 yw’r wobr fwyaf yn y DU i ddramodydd. Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl ddinasyddion y DU ac Iwerddon. Er mwyn ymgeisio, mae’n rhaid cyflwyno drama gyfan (isafswm o 60 munud neu 9,000 gair) sy’n wreiddiol ac nad sydd wedi ei pherfformio nac ei chynhyrchu. Caiff yr ennillydd gyfle i ddatblygu’r ddrama gyda Papatango dros gyfnod o ychydig fisoedd, a bydd cyfle i’w berfformio yn Llundain ac ar daith cenedlaethol. Bydd y sgript yn cael ei gyhoeddi gan Nick Hern Books a bydd yr awdur yn derbyn breindal o werthiant y tocynnau yn ogystal â comisiwn o £6,500 ar gyfer eu drama nesaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://papatango.co.uk/#new-writing-prize

Gwobr Farddoniaeth Christopher Tower 2020 – 2 Mawrth 2020

Mae’r wobr hon yn agored i fyfyrwyr rhwng 16-18 oed sydd yn cael eu haddysgu yn y DU, a does dim ffi cystadlu. Er mwyn ymgeisio, bydd rhaid cyflwyno cerdd hyd at 48 llinell ar y testun: Coed. Mae’r gwobrau’n amrywio rhwng £250 a £3,000. Bydd rhai ymgeiswyr hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu Ysgol Haf Farddonol Tower, sy’n digwydd bob dwy flynedd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.chch.ox.ac.uk/research-and-academia/competition-information

Gwobrau New Welsh Writing 2020: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig – 17 Mawrth 2020

Dyfarnir y wobr hon am lyfr byr rhwng 5,000 a 30,000 gair sydd heb ei gyhoeddi. Mae angen iddo fod yn Saesneg ei iaith ond â thema neu leoliad Cymreig. Mae’n hanfodol fod yr ymgeiswyr yn breswylwyr yn y DU neu Iwerddon, neu wedi eu haddysgu yng Nghymru am o leiaf 6 mis. Bydd yr ennillydd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 fel blaendal tuag at gytundeb e-gyhoeddi yn ogystal â beirniadaeth gadarnhaol gan yr asiant llenyddol Cathryn Summerhayes o Asiantaeth Llenyddol Curtis Brown yn Llundain. Cwrs preswyl o ddewis yr awdur yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yw’r ail wobr, ac arhosiad dwy noson yn Llyfrgell Gladstone yn y Fflint yw’r drydedd wobr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.newwelshwritingawards.com/

Cystadleuaeth Writing Wizardry – 27 Mawrth 2020

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored ar gyfer awduron ifanc o dan 11 oed. Er mwyn ymgeisio, bydd angen danfon cerdd neu stori sy’n llai na 500 gair. Does dim angen i’r stori fod ar thema benodol, ond mae’n rhaid iddo fod yn waith gwreiddiol gan yr ymgeisydd. Bydd yr ennillydd ym mhob categori yn derbyn tŵr o lyfrau a tri chopi am ddim o’r flodeugerdd a fydd yn cynnwys y gwaith. Bydd yr eilion gorau yn derbyn taleb llyfrau gwerth £25 a tri chopi o’r flodeugerdd. Bydd gwobr arbennig hefyd i’r ysgol sydd a’r mwyaf o geisiadau ar y rhestr fer.

Am ragor o wybodaeth, ewch i  https://www.fresherpublishing.co.uk/writing-wizardry-competition/

Gwobr Write on Art– 31 Mawrth 2020

Mae Write on Art yn wobr flynyddol ar gyfer awduron rhwng 15-18 oed sydd wedi ei noddi gan Art Uk a’r Paul Mellon Centre for Studies in British Art. Er mwyn ymgeisio, mae’n rhaid dewis un darn o waith celf ar wefan Art UK ac ysgrifennu amdano: Beth yw’r neges mae’n ei gyfleu? Beth yw’r hanes tu ôl iddo? Sut mae’n gwneud i chi deimlo? Bydd yr ennillwyr yn ennill gwobr ariannol rhwng £100-£500 ac fe y traethodau eu harddangos ar wefan y noddwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.writeonart.org/

Gwobr Stori Fer Caerfaddon– 20 Ebrill 2020

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw awdur, o du fewn neu o du allan y DU, sydd dros 16 oed.

Er mwyn ymgeisio, mae angen stori heb ei chyhoeddi hyd at 2,200 gair ar unrhyw destun. Bydd yr ennillydd yn derbyn £1,200, bydd yr ail wobr yn £300, a’r drydedd wobr yn £100. Mae tâl o £8 am bob cais.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.bathshortstoryaward.org/

Gwobr Stori Fer Bryste– 30 Ebrill 2020

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw awdur cyhoeddedig neu anghyhoeddedig, o du fewn neu o du allan y DU.

Bydd 20 stori yn cael eu rhoi ar restr fer a’u cyhoeddi mewn blodeugerdd. Bydd cyntaf, ail a thrydydd yn cael eu dewis o’r rhestr fer a bydd yr enwau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Hydref 2020. Bydd y cyntaf yn derbyn £1000, yr ail yn derbyn £500 a’r drydedd yn derbyn £250. Bydd 17 o ennillwyr eraill yn derbyn £100.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.bristolprize.co.uk/news/2020-bristol-short-story-writing-competition

Literature Wales