Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd mis Hydref 2019

Cyhoeddwyd Maw 1 Hyd 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd mis Hydref 2019

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar FacebookTwitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Encil Awduron Nant – Mis Hydref ymlaen

Croeso i Nant; hen fwthyn Gradd II* sydd wedi ei ail gynllunio’n arbennig ar gyfer encilion ysgrifennu. Wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae’r bwthyn hunan-arlwyo yma yn darparu hafan gyffyrddus a thawel i unrhyw un sydd angen canolbwyntio ar waith ar y gweill, ychwanegu’r manylion olaf un i’ch gwaith ysgrifennu, neu i ailgynnau eich creadigrwydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.tynewydd.cymru/nant/

 

Cystadleuaeth Ystafell fy Hun – 18 Hydref

Mae’r Gymdeithas Frenhinol i Lenyddiaeth yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer unigolion 14 – 18 oed mewn partneriaeth gyda Stori Gyntaf. 90 mlynedd yn ôl cyfeiriodd Virgina Woolf at yr hyn oedd angen i awduron ei ysgrifennu. Beth ydych chi’n meddwl sydd ei angen i chi ei wneud i gael dyfodol mor ddisglair â phosib. Ysgrifenwch draethawd a mynegwch eich barn am yr hyn sydd angen ei wneud i gael dyfodol fel awdur.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://rsliterature.org/2019/06/a-room-of-my-own-competition/

 

Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Troubadour 2019 – 21 Hydref

Mae wobr flynyddol Troubadour, a gyflwynir gan Coffee-House Poetry yn Llundain, yn gyfle i ennill rhwng £500 a £2000 o bunnoedd. I fod â chyfle i ennill, cyflwynwch gerdd hyd at 45 llinell. Dylai’r cerddi fod yn wreiddiol (dim cyfieithiadau) ac ni allant fod wedi eu darlledu neu eu cyhoeddi (mewn print nac arlein). Gall pobl o bobl gwlad ymgeisio, ond rhaid i’r cerddi fod yn y Saesneg. Y ffi cyflwyno yw £5.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.coffeehousepoetry.org/prizes

 

Theatr Clwyd: Cynllun Awdur Preswyl – 25 Hydref

Mae hwn yn gyfle i dreulio amser yn ysgrifennu a myfyrio ar eich gwaith, er mwyn i Theatr Clwyd ddod i wybod am eich gwaith, ac os yn fuddiol, derbyn sylwadau ar eich gwaith. Nid oes rheidrwydd arnoch i gynhyrchu unrhyw beth yn y pen draw, ac i’r un raddau arnom ninnau i gynhyrchu’r gwaith. Y gobaith ydy bod y gwaith yn ffurfio cychwyn ar bartneriaeth gyda Theatr Clwyd a gyda rhwydwaith o awduron, sy’n gartrefol iawn yn y theatr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.theatrclwyd.com/en/get-involved/artist-development/writer-in-residence/

 

Cystadleuaeth Mentora Cinnamon – 30 Hydref

Mae Cinnamon Press yn cynnig cyfle i ennill lle yn eu cynllun mentora Cinnamon Pencil, ynghyd â dwy ysgoloriaeth 50% i’r ddau agosaf i’r brig. I wneud cais, gallwch gyflwyno 10 cerdd gyda hyd at 50 o linellau yr un, 2 stori fer hyd at 5,000 gair yr un, neu 10,000 gair cyntaf nofel, yn ogystal â chrynodeb a datganiad personol ysgrifennu. Gellir cyflwyno cerddi unigol sydd wedi eu cyhoeddi arlein neu mewn print, cyhyd â bod yr hawlfraint yn perthyn i’r awdur. Croesawir ymgeiswyr rhyngwladol. Ffi cyflwyno yw £10.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.cinnamonpress.com/index.php/competitions/cinnamon-pencil-competition

 

Gwobrau Cymdeithas yr Awduron 2020 – 31 Hydref / 15 Tachwedd / 30 Tachwedd

  • Yr ALCS Gwobr Ymddiriedolaeth Tom-Gallon – ar gyfer gwaith wedi ei gyhoeddi, neu heb ei gyhoeddi.
  • Y Gwobrau Betty Trask – ar gyfer nofelau newydd sydd wedi’u hysgrifennu gan awduron o dan 35 oed.
  • Y Gwobrau Eric Gregory – Ar gyfer casgliad o gerddi gan feirdd o dan 30 oed.
  • Y Wobr McKitterick – ar gyfer nofel newydd gan awdur dros 40 oed (wed’i gyhoeddi neu heb ei gyhoeddi)
  • Y Wobr Goffa Paul Torday – ar gyfer nofel newydd gan awdur dros 60 oed.
  • Y Gwobrau Somerset Maugham – ar gyfer gwaith ffuglen, ffeithiol neu farddoniaeth sydd wedi ei gyhoeddi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.societyofauthors.org/News/News/2019/August/Society-of-Authors-Awards-2020-now-open

 

Gwobr Farddoniaeth Cymru, wedi’i noddi gan Brifysgol Aberystwyth – 28 Tachwedd

Ar ôl 55 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth gyfoes mewn 212 o rifynnau (ac yn cyfri) yn ei gylchgrawn, mae cylchgrawn Barddoniaeth Cymru wedi cyhoeddi Gwobr Barddoniaeth Cymru. Dyma gystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y farddoniaeth gyfoes orau yn genedlaethol. Mae’n agored i ymgeiswyr gydag un cherdd heb fynd dros 70 o linellau gan feirdd newydd  dros 17 oed o Gymru a thu draw. Mae’n rhad ac am ddim i ymgeisio i’r awduron hynny sydd o gefndiroedd icwm isel yn y Deyrnas Unedig, neu o gartrefi sydd yn ennill £16,000 neu lai yn flynyddol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrywales.co.uk/award/

 

Gwobr Llyfr Lluniau Bioamrywiaeth Cogan 2020 – 2 Rhagfyr

Mae’r wobr yma ar gyfrau llyfrau lluniau yn unig (addas ar gyfer blant rhwng 3-7 oed) ond gellir fod yn ffuglen neu yn ffeithiol.  Rydym yn edrych am lyfrau gyda themau cryf o bryderon ecoloegolar gyfer ein planed ni ar lefel lleol neu fyd-eang. I fod yn gymwys ar gyfer y wobr, mae angen i’r llyfrau fod wedi eu cyhoeddi rhwng 1af Medi 2017 a 31ain Awst 2019 awduron hynny sydd o gefndiroedd icwm isel yn y Deyrnas Unedig, neu o gartrefi sydd yn ennill £16,000 neu lai yn flynyddol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.coganprimary.ik.org/DiversityDelegates.html 

 

Gŵyl Hay Europa28: beth mae Ewrop yn ei feddwl i chi? – 1 Chwefror 2020

Mae Gŵyl Hay Europa28 yn brosiect byd-eang Gŵyl y Gelli sy’n ymchwilio i ddyfodol Ewrop gan ddathlu rhai o feddylwyr mwyaf ysbrydoledig y Cyfandir. Mae 28 o awduron benywaidd o 28 gwlad Ewropeaidd wedi eu comisiynnu i rhannu eu gweledigaethau ar gyfer traethodau a darlithoedd y dyfodol, a byddwn yn rhannu hynny â chi drwy gydol 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://www.hayfestival.com/europa28/competition