Dewislen
English
Cysylltwch

Enwi Philip Pullman yn Noddwr Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Maw 4 Hyd 2016 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Enwi Philip Pullman yn Noddwr Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd heddiw bod awdur arobryn y drioleg His Dark Materials, Philip Pullman wedi ei enwi’n Noddwr i Llenyddiaeth Cymru. Ganed Philip Pullman yn Norwich, ac fe deithiodd gyda’i deulu i Zimbabwe ac Awstralia cyn iddynt symud i Lanbedr, Gwynedd. Derbyniodd addysg uwchradd yn Ysgol Ardudwy, Harlech, cyn symud ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ym mhobman.

Cyhoeddwyd y newyddion gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, i gyd-fynd â rhyddhau eu Cynllun Busnes newydd. Mae’r ddogfen yn amlinellu meysydd strategol allweddol y sefydliad ar gyfer 2016 – 2019: Cymryd Rhan; Plant a Phobl Ifanc; Cefnogi Awduron; Rhyngwladol; a Chreadigrwydd Digidol.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu y dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i fwynhau a chreu llenyddiaeth, boed hynny ar bapur neu ar lafar. Mae mentrau megis Bardd Plant Cymru, Awdur Ieuenctid Cymru, Slam Cymru, a chynllun nawdd Awduron ar Daith yn sicrhau fod hyn yn realiti i nifer o bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru.

“Mae ei gwneud hi’n bosib i blant ysgol gwrdd ag awdur proffesiynol (dydw i ddim am ddweud awdur ‘go iawn’, gan fod plant yn awduron go iawn hefyd) yn un o’r ffyrdd gorau i’w hannog i feddwl bod diben i ysgrifennu, a’i fod yn bleserus, a gall arwain at ganfyddiad cyffrous a boddhad parhaus. Mae hefyd yn sbardun gwych ar gyfer darllen. Mae gwaith Llenyddiaeth Cymru wrth ddod â phlant ac awduron proffesiynol ynghyd yn wych – mae o fudd i’r ddwy ochr.” – Philip Pullman

Mae datblygu a chefnogi awduron Cymru ar bob cam o’u gyrfa lenyddol wrth wraidd gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru. O Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc i gyrsiau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn ateb y galw sydd gan awduron am gefnogaeth a chyngor. Weithiau mae’r gefnogaeth mewn ffurf ariannol gan brynu amser i awduron ysgrifennu: ers 2004 mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn mewn Ysgoloriaethau i Awduron gan gefnogi 272 o awduron sydd wedi arwain at gynhyrchu dros 100 o lyfrau newydd.

Dywedodd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn gorff sydd nid yn unig yn proffesiynoli gwaith ysgrifenwyr o Gymru ond hefyd yn ein cysylltu â’r byd ehangach. Mae’n wasanaeth hanfodol sy’n helpu’r genedl i ‘nabod ei hun wrth syllu yn y drych ‘ben bore. Ac am hyn oll, dwi’n hynod o ddiolchgar.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Llenyddiaeth yw un o’r ffurfiau  celfyddyd mwyaf hygyrch. Trwy gydol ein bywydau cawn ein hamgylchynu â straeon; mewn llyfrau, ar fyrddau hysbysebu, ar y sgrin, y llwyfan ac arlein. Caiff geiriau llafar ac ysgrifenedig eu gweu i roi gwefr a miri i ni. Maent yn ein difyrru, ein haddysgu ac yn ein hysbrydoli. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i sicrhau y caiff llenyddiaeth ei gefnogi fel ffurf gelfyddydol ddemocrataidd sy’n berchen i bawb.”

Mae Philip Pullman yn awdur sawl nofel gan gynnwys y drioleg His Dark Materials a’r nofel ar gyfer oedolion ifainc The Broken Bridge sydd wedi’i gosod yn Ardudwy. Mae’r gwobrau y mae wedi eu derbyn yn cynnwys Llyfr y Flwyddyn Whitbread (Costa erbyn hyn) – y tro cyntaf i’r wobr gael ei chyflwyno i lyfr i blant – a’r Astrid Lindgren Memorial Award. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nofel gydymaith i His Dark Materials bydd yn dwyn y teitl The Book of Dust.

Llenyddiaeth Cymru