Dewislen
English

Cyhoeddi enillwyr Cynlluniau Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora Llenyddiaeth Cymru 2019

Cyhoeddwyd Llu 28 Ion 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llun: Kristina Banholzer
Heddiw cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru, y corff sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu llenyddiaeth yng Nghymru, enwau’r rheini a fydd yn derbyn cefnogaeth trwy’r Ysgoloriaethau i Awduron a’r Cynllun Mentora yn 2019. Ymhlith yr enwau hyn mae lleisiau newydd yn amlwg ar y rhestr.

Wrth gyhoeddi enwau’r 26 awdur a fydd yn elwa o’r cynlluniau eleni, mae Llenyddiaeth Cymru yn atgyfnerthu ei ymrwymiad at ddatblygu egin awduron yng Nghymru, tra hefyd yn galluogi awduron profiadol i fentro, ac arbrofi gyda ffurfiau newydd. Mewn cyfnod o gynnwrf gwleidyddol, mae ysgrifennu creadigol newydd o Gymru a fuddsoddir ynddo trwy’r cynlluniau hyn yn adlewyrchu themâu sy’n destun pryder byd-eang. Mae’r themâu hynny’n cynnwys #MeToo, yr amgylchedd, bygythiad ynni niwclear, ymfudo ar raddfa eang, a Brexit, gyda’r gweithiau hefyd yn mynd i’r afael â phynciau oesol megis hunaniaeth, cydraddoldeb, tyfu a dod i oed, marwolaeth a galar.

Mae’r gwobrau’n cynnig cymorth i awduron trwy eu galluogi i ddatblygu gwaith penodol ar y gweill dros gyfnod o 12 mis, gyda’r ffurfiau eleni’n cynnwys nofelau, straeon byrion, llenyddiaeth i blant ac oedolion ifainc, barddoniaeth a rhyddiaith ffeithiol greadigol.

Bydd 20 o awduron yn derbyn Ysgoloriaethau swm penodol gwerth £3,000 yr un. Yn eu plith ceir 5 Ysgoloriaeth Awdur Newydd, a ddyfarnwyd i awduron newydd sydd heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith: Dyfan Lewis, Philip Jones, Emily Vanderploeg, Nasia Sarwar-Skuse a Lucy Corbett. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur o dan 25 i Jennifer Evans. Bydd Sara Hawys Roberts a Chris Tally Evans ill dau yn derbyn Ysgoloriaeth Cefnogi.

 

Enillwyr Ysgoloriaethau 2019

Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad hwn mewn ysgrifennu newydd a datblygu talent newydd, mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru nodi bod 20 o’r 22 awdur sydd ar y rhestr eleni’n derbyn Ysgoloriaeth am y tro cyntaf, gyda 14 ohonynt heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn. Mae’r cynfas yn eang, â gwaith gan awduron o Gymru sy’n mynd â ni o Colombia (Jay Griffiths) i Zimbabwe (Lloyd Markham), a thu hwnt i fyd gwbl ddychmygol yn y dyfodol agos (JL George). Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn galluogi Dyfan Lewis i ddatblygu casgliad o ysgrifau wedi eu hysbrydoli gan ei deithiau yn Ne-ddwyrain Asia.

Yn oes ôl-wirionedd a #MeToo, fe fydd gwaith newydd Philip Jones a Jon Doyle yn taro golwg ar y byd o bersbectif gwrywaidd.

Ceir ymdriniaethau pwerus o alar mewn barddoniaeth a rhyddiaith, wedi eu hysgogi gan brofedigaeth. Mae barddoniaeth Marged Tudur yn deillio o’i phrofiad dirdynnol o golli ei brawd. Bydd nofel Llio Maddocks ar gyfer pobl ifainc ynglŷn â galar a chyfeillgarwch yn yr arddegau. Bydd Jennifer Evans a Sara Hawys Roberts ill dwy yn datblygu nofelau Saesneg ar gyfer oedolion ifainc, nofelau sy’n eofn eu cynnwys wrth ymdrin â marwolaeth. I gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y llon a’r lleddf, bydd nofel i blant gan Jo Thomas yn dod â gwên. Mae Maddie, yr arwres ifanc ddewr, yn byw mewn goleudy pellennig wedi ei adleoli ynghanol tir mawr Lloegr, ac yn dyheu am ddychwelyd i lan y môr yn ne Cymru. Gwroldeb, cyfeillgarwch, dewrder a chanfod eich llais yw prif themâu nofel hwyliog Janine Barnett-Phillips ar gyfer oedolion ifainc, wedi ei gosod mewn ysgol i oedolion ifainc ag anghenion addysgiadol arbennig.

Yn ogystal bydd Ysgoloriaethau yn galluogi’r awduron profiadol Llŷr Gwyn Lewis, Meirion MacIntyre Huws, clare e. Potter, Jay Griffiths, Rhiannon Hooson, Ailbhe Darcy, Lloyd Markham a Georgia Carys Williams i gamu i gyfeiriad newydd trwy arbrofi a chreu gwaith newydd arloesol.

Bydd Ysgoloriaeth yn galluogi’r llenor Llŷr Gwyn Lewis i ddilyn trywydd newydd ac yn ysgrifennu nofel wedi ei hysbrydoli gan ddirgelwch yn ei hanes teuluol. Edrychwn ymlaen hefyd at ddarllen gwaith newydd gan y Prifardd Meirion MacIntyre Huws. Bydd ei farddoniaeth yn ymateb i’r holl brofiadau sy’n cyffwrdd dyn mewn blwyddyn. Bydd clare e. potter yn ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ysgogiad y gwaith yw’r cyfnod a dreuliodd fel bardd preswyl mewn tŷ canoloesol; mae gwylio crefftwyr wrth eu gwaith wedi ei hysbrydoli i archwilio’r grefft o greu cerddi, a magu hyder i ysgrifennu rhagor o gerddi yn y Gymraeg.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i ddarllen am yr holl awduron sy’n derbyn Ysgoloriaeth i Awduron.

 

Cynllun Mentora Estynedig

Yn 2019, mae’r cynlluniau’n rhoi rhagor o bwyslais ar feithrin awduron newydd wrth iddynt ddatblygu eu crefft. Mae 4 awdur newydd wedi ennill lle ar y Cynllun Mentora sef Branwen Haf Williams, Mari Ellis Dunning, Nicholas McGaughey a Rachel Carney. Fe fydd y 6 awdur sy’n derbyn yr ysgoloriaethau  sydd wedi eu clustnodi yn ymuno â nhw (yr Ysgoloriaethau Awdur Newydd a’r ysgoloriaeth i awdur o dan 25). Bydd y Cynllun Mentora yn dechrau gyda chwrs pwrpasol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fis Chwefror 2019, ac fe geir sesiynau mentora unigol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio â chynrychiolwyr ar draws y diwydiant cyhoeddi.

Tra’n cymryd rhan yn y Cynllun Mentora, bydd Branwen Haf Williams yn troi o ysgrifennu caneuon at ysgrifennu nofel sydd wedi’i hysbrydoli gan straeon o gyfnod plentyndod ei nain yn ardal Borth Amlwch. Bydd Nicholas McGaughey, sy’n wyneb cyfarwydd wedi actio yng nghyfres deledu Pobol y Cwm, yn datblygu ei lais fel bardd, ac yn canolbwyntio ar ysgrifennu barddoniaeth Saesneg.

Mae yma egni newydd, ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor gan yr holl awduron sydd ar y rhestr eleni, wrth iddynt ddatblygu eu gwaith mewn amrywiol ffurfiau, cyweiriau a lleisiau.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i ddarllen am yr holl awduron sydd wedi ennill lle ar y Cynllun Mentora.

 

Dywedodd Sioned Williams, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Ar gyfnod sy’n heriol i’r economi a nawdd i’r celfyddydau, mae’r gefnogaeth ariannol ac ymarferol sy’n cael ei gynnig drwy’r Cynllun Ysgoloriaethau a Mentora yn bwysicach nag erioed i ddiwylliant Cymru ac mae’r ymateb rhagorol a gafwyd eleni yn arwydd clir o werthfawrogiad awduron ein cenedl o’u gwerth creiddiol i’w datblygiad fel llenorion.”

Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Mae’r awduron sy’n derbyn Ysgoloriaethau a Mentora eleni yn cynrychioli cryfder ac amrywiaeth ysgrifennu creadigol yng Nghymru, a cheir yma dalentau llenyddol disglair. Rwy’n argymell bod gweisg ac asiantau llenyddol sy’n chwilio am awduron sy’n serennu yn troi eu golygon at y lleisiau newydd trawiadol o Gymru. Trwy annog creadigrwydd, arbrofi a mentro, edrychwn ymlaen at wledd o ysgrifennu creadigol newydd o Gymru.”

Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1.3 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 297 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres. Noddir Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora Llenyddiaeth Cymru gan y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’r Ysgoloriaethau hyn yn adrodd stori galonogol ynglŷn â dawn lenyddol yn niwylliant cyfoes Cymru. Mae yma ystod o ffurfiau a thestunau, a chyfuniad o awduron cyhoeddedig ac awduron newydd – mae hyn oll yn dynodi diwylliant bywiog a heriol yn ein cenedl. “

 

I ddarllen mwy am Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru, a’r dulliau eraill gall y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth gefnogi awduron a llenyddiaeth Cymru, ewch i’r dudalen Ar Gyfer Awduron.