Dewislen
English

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017

Cyhoeddwyd Maw 10 Hyd 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Wedi misoedd o ddarllen, cyfarfod a thrafod, mae beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dewis naw ffefryn o’r llyfrau a gyhoeddwyd yn ystod 2016, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai Rhestr Fer Cymraeg 2017 yw:


Gwobr Farddoniaeth

Bylchau, Aneirin Karadog (Cyhoeddiadau Barddas)
Chwilio am Dân, Elis Dafydd (Cyhoeddiadau Barddas)
Llinynnau, Aled Lewis Evans (Cyhoeddiadau Barddas)

 

Gwobr Ffuglen

Y Gwreiddyn, Caryl Lewis (Y Lolfa)
Ymbelydredd, Guto Dafydd (Y Lolfa)
Iddew, Dyfed Edwards (Gwasg y Bwthyn)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Gwenallt, Alan Llwyd (Y Lolfa)
Optimist Absoliwt, Menna Elfyn (Gwasg Gomer)
Cofio Dic, Idris Reynolds (Gwasg Gomer)

 

Y panel beirniadu Cymraeg eleni yw: y beirniad llenyddol, Catrin Beard; y bardd ac awdur Mari George; ac Eirian James, perchennog y siop lyfrau annibynnol arobryn, Palas Print yng Nghaernarfon.

Dywedodd Catrin Beard:

“Cafwyd llawer o drafod, ac roedd gan bob un ohonon ni ein ffefrynnau… trueni mai ond tri ym mhob categori sy’n cael bod ar y Rhestr Fer achos mae rhai eraill teilwng iawn wedi gorfod cael eu hepgor.

Mae Rhestr Fer categori Ffuglen yn amrywiol iawn, gyda dwy nofel heriol ac arloesol ac un fwy traddodiadol ei naws ond sy’n feistrolgar yn ei defnydd o ffurf y stori fer. Dau fardd profiadol a llais ifanc newydd sydd yn Rhestr Fer categori Barddoniaeth. Categori digon anodd ei feirniadu yw ffeithiol greadigol gan fod cymaint o amrywiaeth o ran natur, ffurf a phwrpas y cyfrolau. Er bod nifer fawr o gyfrolau safonol ar nifer o bynciau gwahanol, y bywgraffiadau ddaeth i’r brig, ac mae Rhestr Fer categori Ffeithiol Greadigol yn cynnwys tri bywgraffiad cwbl wahanol i’w gilydd.”

Beirniaid y wobr Saesneg eleni yw: yr awdur arobryn Tyler Keevil; yr Uwch Ddarlithydd Dimitra Fimi; ac enillydd Gwobr Farddoniaeth Costa, Jonathan Edwards. Y Rhestr Fer Saesneg yw:


Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias

What Possessed Me, John Freeman (Worple)

The Other City, Rhiannon Hooson (Seren)

Psalmody, Maria Apichella (Eyewear)

 

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

Pigeon, Alys Conran (Parthian)

Cove, Cynan Jones (Granta)

Ritual, 1969, Jo Mazelis (Seren)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

The Tradition, Peter Lord (Parthian)

Jumpin’ Jack Flash, Keiron Pim (Vintage)

The Black Prince of Florence, Catherine Fletcher (The Bodley Head)

 

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’n un o uchafbwyntiau llenyddol y flwyddyn, ac rydym ni yn Llenyddiaeth Cymru yn llawn cyffro wrth ddisgwyl am gael cyhoeddi Rhestr Fer 2017. Gyda’r cyhoeddiad yn digwydd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd, gobeithiwn y bydd darllenwyr yn heidio i’w llyfrgell leol i ac yn bachu ar y cyfle i fenthyca’r teitlau arbennig hyn, a phrofi cyfoeth ac amrywiaeth llenyddiaeth gyfoes Gymreig. Bydd darllenwyr yn teithio i gysgod mynyddoedd llechi i Lundain y 60au; aent ar goll ar y môr; caent brofi poen therapi ymbelydredd; dysgu am hanes celf; a mynd ar siwrne drwy themâu colled, chwedl a chof.”

Caiff enillwyr y wobr fawreddog hon eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn y Tramshed, Caerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd, ble caiff cyfanswm o £12,000 ei ddosbarthu i’r awduron llwyddiannus. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal bydd enillwyr yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo yn £6, a gellir eu prynu arlein o http://tramshedcardiff.com.

Hefyd yn y Seremoni Wobrwyo, fe gyhoeddir pwy yw enillwyr Barn y Bob a’r People’s Choice Award. Bydd y polau’n agor yn syth wedi’r cyhoeddiad, felly ewch i bleidleisio am eich ffefryn o’r cyfrolau ar y Rhestr Fer ar wefannau Golwg360: www.golwg360.com (Cymraeg) neu ar Wales Arts Review www.walesartsreview.org.

 

I ddarllen rhagor am y teitlau ar y Rhestr Fer, cliciwch yma.