Dewislen
English
Cysylltwch

Cynllun Nawdd i Awduron Llenyddiaeth Cymru Nawr ar Agor

Cyhoeddwyd Gwe 14 Gor 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynllun Nawdd i Awduron Llenyddiaeth Cymru Nawr ar Agor
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi bod Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora 2018 nawr ar agor i dderbyn ceisiadau.

Dyma ail-lansio Cynlluniau Datblygu Awduron Llenyddiaeth Cymru, a fydd yn rhoi rhagor o bwyslais ar awduron newydd, cynnydd yn y cyfleoedd mentora, a datblygu cysylltiadau gwell rhwng yr ymgeiswyr llwyddiannus a chynrychiolwyr o’r diwydiant. Dywedodd Jonathan Edwards a dderbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2011, “Caniataodd i mi ddatblygu fy arddull, gan roi cyfle i mi arbrofi gyda dulliau mwy uchelgeisiol”.

Gweithredir y newidiadau hyn i’r Ysgoloriaethau a’r Cynllun Mentora yn dilyn cyfres o ymgynghoriadau gydag awduron ac aelodau’r cyhoedd trwy gydol 2016. Cyflawnwyd yr ymgynghoriadau hyn trwy gyfrwng grwpiau ffocws, cyfarfodydd un-i-un, yn ogystal â holiaduron cyhoeddus.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ystyried canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn, ac mae’r datblygiadau newydd yn cynnwys:

  • Clustnodi 5 Ysgoloriaeth ar gyfer awduron newydd (sydd heb eto gyhoeddi eu gwaith)
  • Clustnodi 1 Ysgoloriaeth ar gyfer awdur o dan 25
  • Cyflwyno rheol newydd lle mae rhaid gadael bwlch o 3 blynedd rhwng Ysgoloriaethau
  • O 2018 ymlaen, ni all awdur dderbyn mwy na 3 Ysgoloriaeth
  • Bydd Ysgoloriaeth yn swm penodol o £3,000 yr un i bob awdur
  • Bydd Ysgoloriaeth yn cynnwys dau ddigwyddiad rhwydweithio gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant
  • Cynyddu nifer safleoedd Mentora o 4 i 10
  • Bydd y cynllun Mentora yn dechrau gyda chwrs preswyl wythnos o hyd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac maent yn galluogi awduron i ganolbwyntio ar ddatblygu gwaith penodol ar y gweill dros gyfnod o ddeuddeng mis. Dywedodd Lleucu Roberts, a dderbyniodd Ysgoloriaeth yn 2012, ei fod wedi rhoi “cyfle gwirioneddol i ysgrifennu’r hyn roeddwn i eisiau ei ysgrifennu, er fy mwyn fy hun a neb arall, waeth beth a ddôi o’r gwaith”.

Dyfernir Ysgoloriaethau i Awduron er mwyn cefnogi awduron sy’n creu gwaith newydd yn y genres canlynol: rhyddiaith, yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i bobl ifanc; barddoniaeth; nofelau graffeg; rhyddiaith ffeithiol greadigol, yn cynnwys beirniadaeth lenyddol, cofiant/hunangofiant. Croesawir ceisiadau gan awduron ar wahanol adegau yn eu gyrfa, a dyfernir Ysgoloriaethau yn bennaf ar gyfer gwaith o’r radd flaenaf. Dyfernir Ysgoloriaethau gan Banel annibynol.

Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dosbarthu dros £1.2 miliwn o Ysgoloriaethau, gan gefnogi 259 o awduron trwy Gymru gyfan, ac o ganlyniad fe gyhoeddwyd 126 o lyfrau ac 16 erthyglau.

Dywedodd Ifan Morgan Jones, a dderbyniodd Ysgoloriaeth yn 2015, “Roedd fy Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru yn amhrisiadwy. Galluogodd i mi gwblhau fy nofel Dadeni. Hebddo ni fuaswn wedi gallu cymryd amser oddi ar fy ngwaith er mwyn cwblhau’r nofel, ac ni fyddai’r nofel wedi gweld golau dydd hyd heddiw. Fe sicrhaodd Llenyddiaeth Cymry fod y broses yn un ddiffwdan ac roedd yn bleser gweithio gyda’u staff proffesiynol. Rwy’n annog fy nghyd-awduron i gymryd mantais o’r cyfleon y mae gwneud cais am Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru yn eu cynnig.”

Dywedodd Vanessa Savage a dderbyniodd Ysgoloriaeth yn 2015,: “Mae canfod amser i ysgrifennu wrth redeg busnes a magu teulu wedi bod yn broblem erioed – roedd derbyn Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru ar gyfer The Murder House wedi fy ngalluogi i orffen y drafft cyntaf. Roedd cael yr amser i ysgrifennu’n llawn amser yn gwireddu breuddwyd ac yn allweddol wrth roi hunan hyder i mi i orffen y llyfr. Es ymlaen i weithio gydag asiant llenyddol, Juliet Mushens o Caskie Mushens ac mae The Murder House newydd gael ei brynu gan Little, Brown fel rhan o gytundeb dau lyfr ac fe gaiff ei gyhoeddi fel prif deitl gan Sphere yn gynnar yn 2019.”

Gwahoddir ceisiadau gan awduron newydd ac awduron cyhoeddedig sy’n byw yng Nghymru. Gall unigolion ymgeisio am Ysgoloriaeth Awdur neu Ysgoloriaeth Cefnogi. Dyfernir Ysgoloriaeth Cefnogi er mwyn cynorthwyo awduron sydd ag anawsterau symudedd neu anableddau, sydd angen cyfarpar arbenigol neu gymorth. Gall ymgeiswyr ar gyfer yr Ysgoloriaeth Cefnogi ymgeisio am hyd at £2,000 ar gyfer cymorth i ddatblygu eu gwaith ar y gweill.

Mewn datblygiad newydd ar gyfer 2018, ceir 20 Ysgoloriaeth Awdur sydd â swm penodol o £3,000 yr un. Caiff 5 Ysgoloriaeth Awdur eu clustnodi ar gyfer awduron newydd sydd heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith. Yn ogystal, clustnodir un Ysgoloriaeth ar gyfer awdur o dan 25 mlwydd oed.

Yn ogystal, ehangwyd y Cynllun Mentora ar gyfer Awduron. Dyfernir lleoedd ar y Cynllun hwn i awduron ar ddechrau eu gyrfa. Mae’r Cynllun yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi. Bydd Cynllun Mentora 2018 yn dechrau gyda chwrs preswyl wythnos o hyd yn Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Chwefror 2018. Yn y misoedd yn dilyn y cwrs ceir sesiynau unigol un-i-un gyda mentor profiadol.

Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Rydym yn ymfalchïo bod yr Ysgoloriaethau a’r Cynllun Mentora yn parhau i gael eu cefnogi’n hael gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn dilyn ein ymgynghoriad gydag awduron, mae’n bleser gennym lansio’r Ysgoloriaethau i Awduron ar eu newydd wedd, a’r Cynllun Mentora estynedig. Bydd y cynlluniau hyn yn meithrin a datblygu awduron newydd yn benodol, yn ogystal â pharhau i gefnogi awduron trwy Gymru ar bob cam o’u gyrfa. Trwy annog creadigrwydd, arbrofi a mentro, rydym yn edrych ymlaen at waith llenyddol newydd o’r radd flaenaf yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Ychwanegodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymfalchïo wrth barhau i fuddsoddi mewn talent llenyddol. Mae cefnogi a gwobrwyo talentau wrth galon yr hyn yr ydym yn credu. Mae’r Ysgoloriaethau hyn yn enghraifft ardderchog o sut, gyda’n gilydd, gallwn gefnogi dawn llenyddol, a dod a’i rym ac egni i gynulleidfaoedd fwyfwy eang.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau a Mentora 2018 yw: 5.00 pm, Dydd Mercher 16 Awst 2017.

Mae canllawiau llawn a ffurflenni cais ar gyfer Ysgoloriaethau 2018 a Mentora 2018 ar gael i’w lawrlwytho o wefan Llenyddiaeth Cymru: YsgoloriaethauMentora.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266

Literature Wales