Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2019-2022)

Lansiwyd y Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022 ym mhabell Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mercher 29 Mai. Gweledigaeth y sefydliad yw Cymru sydd yn sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Cyflwynodd Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Kate North a’r Prif Weithredwr, Lleucu Siencyn y cynllun, sydd wedi ei ddatblygu yn dilyn proses ymgynghori eang gyda chefnogaeth Rhaglen Wytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth o fewn y sector a’i gefnogaeth parhaol i egin awduron yn ganolog i’r strategaeth am y dair blynedd nesaf.
Mae ein cylch gorchwyl wedi ei fireinio er mwyn canolbwyntio ar fuddsoddi ar yr amser iawn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Rydym wedi adnabod tri prif faes a elwir yn Golofnau Gweithgaredd, a thri Blaenoriaeth Dactegol lle byddwn yn canolbwyntio ein egni a’n gweithgaredd yn ystod cyfnod y Cynllun Strategol (2019-2022). Mae’r tair colofn yn gorgyffwrdd, a rhan helaeth o’n gwaith yn llifo o un i’r llall. Ni chaiff prosiectau eu datblygu heb edrych ar y darlun cyfan. Byddant yn ategu ei gilydd, a bydd i’n holl weithgarwch dros y tair blynedd ddilyniant a datblygiad clir.
Ein Colofnau Gweithgaredd yw:
- Cyfranogi – ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.
- Datblygu Awduron – datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.
- Diwylliant Llenyddol Cymru – dathlu ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru.
Ein Blaenoriaethau Tactegol yw: Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb; Iechyd a Llesiant; a Plant a Phobl Ifanc.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
“Mae gan bob un ohonom ein straeon i’w hadrodd, ac rydym oll yn rhannu’r angen greddfol hwnnw i wrando ar ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae awduron yn dal drych i wyneb cymdeithas, a dylem edrych yn graff ar yr adlewyrchiad. Pwy a ŵyr beth ddaw’r dyfodol i’n rhan, ond bydd Llenyddiaeth Cymru yno i rymuso, i wella ac i gyfoethogi ein bywydau.”
Gallwch ddarllen y cynllun yn ei gyfanrwydd yma.
Datblygu Awduron
Mae awduron yn ganolog i waith Llenyddiaeth Cymru; maent yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cyflawni ein prosiectau, ac yn randdeiliaid hollbwysig. Bwriadwn i’r gefnogaeth a’r ymyraethau yr ydym yn eu cynnig fod yn rai datblygiadol hir-dymor, gan ganolbwyntio ar fuddsoddi ar yr amser iawn er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad celfyddydol a phroffesiynol yr unigolyn.
Bydd prosiectau sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis Ysgoloriaethau i Awduron a’r Cynllun Mentora yn parhau i gael eu rheoli gan Llenyddiaeth Cymru, ar y cyd â chynhigion datblygiad pellach. Mae rhain yn cynnwys Rhaglen Hyfforddi Awduron mwy cydlynol; Cyfleoedd Cysgodi rheolaidd i awduron sy’n awyddus i weithio mewn lleoliadau cyfranogi; rhaglenni sy’n mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth yn y sector lenyddol; a chynllun nawdd sy’n cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i awduron gyflawni prosiectau sy’n hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a llesiant; a Nant, bwthyn rhestredig Gradd II* ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, wedi ei adnewyddu’n ddiweddar a hynny’n arbennig ar gyfer encilion.
Cynrychioli Pawb
Trwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwneud mwy i feithrin amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol. Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd. Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb. Rydym wedi adnabod tair nodwedd benodol, a byddwn yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gleientiaid sydd yn: Unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME); unigolion o gefndiroedd incwm isel; ac unigolion sydd ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol).
Byddwn yn parhau i arddel diffiniad eang o lenyddiaeth, gan roi cyfleoedd i gyfranogwyr o bob gallu fwynhau ac arbrofi â gwahanol ffurfiau.
***
Dywedodd Kate North, Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru fod angen i’r sefydliad “barhau i ddysgu a myfyrio, bod yn hyblyg a chroesawu newid” gan hefyd fod yn barod i edrych ymlaen hefyd at y cyfleoedd fydd yn codi yn y blynyddoedd a ddaw. Cyhoeddodd hefyd nifer o brosiectau newydd, dyddiadau allweddol ar gyfer cyfleoedd sydd i ddod, a buddsoddiad ychwanegol i gynlluniau cyfredol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Buddsoddiad ychwanegol o £15,000 i’r cynllun hirhoedlog Awduron ar Daith ar gyfer 2019-2020, gyda swm penodol wedi ei gorlannu ar gyfer digwyddiadau i blant a phobl ifanc, gyda phwyslais penodol ar ddiwrnodau megis Diwrnod T. Llew Jones, Diwrnod Barddoniaeth, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Roald Dahl;
- Ymestyn cyfnod Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru am daith blynedd ychwanegol;
- Cyhoeddwyd mai Gruffudd Owen fydd y Bardd Plant Cymru ar gyfer 2019 – 2022 o lwyfan Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd;
- Mae modd archebu arhosiad yn Encil Awduron Nant – bwthyn rhestredig Gradd II* ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd – o 1 Gorffennaf ymlaen;
- Bydd Cynlluniau Ysgoloriaethau a Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020 yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Mercher 10 Gorffennaf 2019. Y dyddiad cau yw dydd Mawrth 10 Medi 2019;
- Bydd gan Llenyddiaeth Cymru stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn yr haf – dewch draw i’n gweld;
- Yn ogystal, bydd Llenyddiaeth Cymru yn recriwtio Cyfarwyddwyr ac Aelodau Panel Ysgoloriaethau newydd yn y misoedd nesaf – fe gyhoeddir gwybodaeth ar ein gwefan yn fuan.
Cyhoeddwyd hefyd dau gyfle arbennig ar gyfer awduron:
- Children’s Laureate for Wales – Bydd galwad agored am geisiadau ar gyfer y rôl newydd hwn ddechrau Mehefin. Mae’r Children’s Laureate for Wales yn rôl llysgenhadol, a bydd y deiliad llwyddiannus yn gweithio yn agos â Bardd Plant Cymru i sicrhau fod plant ledled Cymru yn cael y cyfle i arbrofi â geiriau.
- Bydd Cynllun Nawdd Llên a Lles, a gynhigiwyd am y tro cyntaf yn 2018, yn dychwelyd eleni gyda galwad agored i awduron ac artistiaid. Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth ariannol a hyfforddiant i awduron ac artistiaid er mwyn creu a chyflawni prosiectau ysgrifennu creadigol gwreiddiol sy’n hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a llesiant.
Fe gyhoeddir rhagor o wybodaeth am yr holl brosiectau a nodir uchod ar y wefan hon yn yr wythnosau nesaf.
Archwiliwch ein gwefan, dilynwch ni ar y rhwydweithiau cymdeithasol, neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol i ddarganfod rhagor am ein gwaith.
Twitter: @LlenCymr / @LitWales
Facebook: LlenCymruLitWales
Instagram: llencymru_litwales
Ebost: post@literaturewales.org
Ffôn: 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd) / 01766 522811 (Tŷ Newydd)