Dewislen
English
Cysylltwch

Cynnal Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn Aberystwyth

Cyhoeddwyd Iau 2 Awst 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynnal Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn Aberystwyth

Wedi blynyddoedd llwyddiannus yn Galeri Caernarfon, y Redhouse ym Merthyr a’r Tramshed yng Nghaerdydd, bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ymweld â chartref newydd yn 2019, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r cartref hwnnw yw Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Dyfernir Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Yn y Seremoni Wobrwyo fe gyhoeddir enillwyr y categorïau hyn gydag un o’r cyfrolau buddugol yn y ddwy iaith yn cael ei enwi’n Llyfr y Flwyddyn 2019. Bydd cyfanswm o £12,000 mewn gwobrau’n cael eu dosbarthu i’r awduron llwyddiannus. Caiff y Seremoni ei chynnal yn Theatr y Werin, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ar 20 Mehefin 2019. Mae’r theatr yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gyda buddsoddiad sylweddol mewn systemau trydanol a seddi newydd.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth: “Rydym wrth ein boddau i gael croesawu noson wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yma i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth yn 2019. Ond nid noson yn unig bydd hon, yn hytrach wythnos o weithgareddau i’r hen a’r ifanc i ddathlu llên gyda’r noson wobrwyo yn goron iddi. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur nawr!”

Fel rhan o’r bartneriaeth newydd hon, caiff y gwobrau ffuglen yn y ddwy iaith eu noddi gan Brifysgol Aberystwyth, a byddant yn dwyn y teitlau Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth a’r Aberystwyth University Fiction Award.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Diwylliant Cymru ac Ymgysylltu Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Caiff Aberystwyth ei disgrifio’n aml fel prifddinas ddiwylliannol Cymru ac mae yma draddodiad llenyddol cryf. Yn ogystal â’r Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau ar ein prif gampws ar riw Penglais, mae’r ardal hon yn gartref i’r Llyfrgell Genedlaethol, y Cyngor Llyfrau a sefydliadau eraill yn ogystal â llu o feirdd ac awduron. Mae’n lle delfrydol felly ar gyfer cynnal Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2019 ac edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru i sicrhau llwyddiant yr achlysur pwysig hwn.”  

Dyddiadau Allweddol

Cyhoeddir Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn ddechrau mis Mai 2019, ac fe gynhelir y Seremoni Wobrwyo ar ddydd Iau 20 Mehefin 2019. Cyhoeddir enwau beirniaid Gwobr 2019 yn yr hydref.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn hynod falch o gydweithio â Chanolfan y Celfyddydau i ddod ag un o uchafbwyntiau’r calendr llenyddol i’r dref hyfryd hon. Yn gartref i sefydliadau llên a llenorion di-ri, mae Aberystwyth eisoes yn enwog am ei chysylltiadau llenyddol, sy’n ei gwneud yn lleoliad naturiol ar gyfer Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Brifysgol Aberystwyth am eu cefnogaeth hael, ac edrychwn ymlaen at gydweithio a’n holl bartneriaid i wneud hwn yn ddathliad i’w gofio!”