Dewislen
English
Cysylltwch

Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020

Cyhoeddwyd Iau 15 Ebr 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020

Dathlu Cymru yn rowndiau terfynol Ewro 2020 gyda chystadleuaeth farddoniaeth i blant oedran cynradd

I ddathlu fod ein tîm pêl-droed cenedlaethol wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi dod ynghyd i lansio Cystadleuaeth Farddoniaeth ecsgliwsif Cymru Ewro 2020.

Mae’r gystadleuaeth yn gwahodd plant Cymru i gyflwyno cerddi ar y thema Hunaniaeth, am y cyfle i ennill llu o wobrau gwych. Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant blwyddyn 6 ac iau, a gellir cyflwyno cerddi yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae’r panel beirniadu’n cynnwys dau bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru), Eloise Williams (Children’s Laureate Wales), a’r gantores-gyfansoddwr Kizzy Crawford.

Dywedodd Gruffudd Owen, a gyflwynodd ei gerdd fuddugol i gystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 dan y ffugenw Hal Robson-Kanu ar ôl cael ei ysbrydoli gan berfformiadau’r chwaraewr yn rowndiau terfynol Ewro 2016 UEFA:

“Gall unrhyw un ysgrifennu barddoniaeth – does dim rheolau. Dwi eisiau i bob plentyn deimlo eu bod nhw’n gallu rhoi cynnig arni a chael hwyl, dyna’r peth pwysicaf.”

Bydd enillydd yn y Gymraeg a’r Saesneg yn derbyn crys pêl-droed Cymru wedi’i lofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, copi o’u cerdd wedi’i llofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, pecyn llyfrau a gweithdy ar gyfer eu dosbarth ysgol gan Eloise neu Gruffudd. Bydd y cerddi buddugol hefyd yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr Cymru cyn eu gêm agoriadol yn Ewro 2020.

Dywedodd Eloise Williams: “Dyma gyfle gwych i blant Cymru herio eu hunain ac arddangos eu creadigrwydd. Mae barddoniaeth yn ffordd arbennig o ddarganfod ein hunain a defnyddio ein lleisiau unigryw. Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen yr hyn sydd gan y plant i’w ddweud am hunaniaeth, ac rwy’n gwybod y bydd cyfoeth o dalent a gonestrwydd yn eu geiriau. Mae lleisiau a barn pobl ifanc yn arbennig, a galla i ddim aros i’w dathlu!“

Anogir plant i fod yn wreiddiol, i ysgrifennu o’r galon, i ddehongli’r thema Hunaniaeth mewn unrhyw ffordd y maent yn dymuno, ac i gofio nad oes rhaid i’w cerddi ymwneud â phêl-droed.

Dywedodd Kizzy Crawford, sydd wedi perfformio mewn digwyddiadau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, fel parti dathlu llwyddiant Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 yn Stadiwm Dinas Caerdydd: “Ers yn ddim o beth, dwi wedi defnyddio geiriau a cherddoriaeth i archwilio a herio fy hunaniaeth fy hun. Fel artist hil gymysg o Gymru, dwi’n llawn cyffro i fod yn rhan o’r gystadleuaeth hon a fydd yn annog plant i archwilio beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw.”

Lansiwyd y gystadleuaeth ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, gyda’r ddwy orsaf yn cefnogi’r gystadleuaeth arbennig wrth iddi ddatblygu.

Mae’r gystadleuaeth yn barhad o’r bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru a welodd y sefydliadau yn cydweithio gyda disgyblion o Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yng Nghasnewydd yn 2019 i gyfansoddi cerdd Gymraeg ysbrydoledig ar gyfer lansiad ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA Cymru.

Dywedodd Gareth Bale, Capten Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru, “Mae’n wych bod presenoldeb Cymru yn rowndiau terfynol Ewro 2020 nid yn unig yn ysbrydoli ac yn annog plant i fynegi eu hunain ar y cae pêl-droed, ond hefyd drwy ysgrifennu barddoniaeth. Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen y ceisiadau!”

Rhaid i gerddi gael eu cyflwyno ar ran plant gan athro, rhiant neu warchodwr. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 20 Mai 2021.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gyflwyno cerddi, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/ewro2020