Dewislen
English
Cysylltwch

Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas 2017

Cyhoeddwyd Llu 9 Ion 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas 2017

Y bardd a pherfformiwr arobryn Mab Jones yn ad-ennill cytundeb i drefnu’r trydydd Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn 2017

Yn dilyn ei llwyddiant yn y rôl yn 2016, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi fod y bardd arobryn Mab Jones wedi ennill cytundeb newydd i drefnu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas 2017 ar ran Llenyddiaeth Cymru. Mae’r fenter wedi ei hariannu gan Llywodraeth Cymru.

Mae Mab Jones yn ddarllenwr brwd o waith Dylan Thomas, a bu’n arwain gweithdai Dylanwad – rhaglen addysgiadol Llenyddiaeth Cymru yn ystod canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014. Bu Mab yn gyfrifol am drefnu a chydlynu Dydd Dylan 2016 a fu’n llwyddiant ysgubol gyda dros 50 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros y byd gan gysylltu’n uniongyrchol â dros 7000 o bobl yng Nghymru a thu hwnt trwy gyfres o ddigwyddiadau byw ac arlein, gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol, cystadleuaeth ysgrifennu i bobl ifanc, ac adnoddau addysgol. Mae uchafbwyntiau digwyddiadau wedi cynnwys cerflun tywod o bortread Dylan ar draeth Cei Newydd; gweithdy barddoniaeth dwyieithog yng Nghaerdydd; rap newydd am Dylan Thomas gan yr artist Baba Brinkman a rannwyd ar Facebook a YouTube; yn ogystal â digwyddiadau amrywiol ar hyd a lled y byd gan gynnwys Llundain, Talacharn, Rhydychen, Efrog Newydd, Casnewydd ac Awstralia.

 

Am Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas

I adeiladu ar lwyddiant dathliadau Canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014, mae Llenyddiaeth Cymru wedi derbyn cyllid dros 3 blynedd gan Llywodraeth Cymru i weithredu Diwrnod Cenedlaethol Dylan Thomas a gaiff ei ddathlu bob blwyddyn ar 14 Mai (y dyddiad y cafodd Under Milk Wood ei ddarlleniad cyntaf yn Efrog Newydd). Digwyddodd y Dydd Dylan cyntaf ar 14 Mai 2015, a derbyniodd sylw cyhoeddus gwych yng Nghymru a thu hwnt gyda miloedd yn rhannu eu dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol mewn llefydd megis Efrog Newydd a Seland Newydd.

Os ydych chi’n trefnu digwyddiad ar gyfer Diwrnod Rhynwgadol Dylan Thomas neu eisiau darganfod rhagor o wybodaeth am weithgareddau sydd wedi eu trefnu, gallwch gysylltu â Chydlynydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, Mab Jones ar

intdylanthomasday@gmail.com

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Dydd Dylan ar ein gwefan neu i www.discoverdylanthomas.com

 

Uncategorized @cy