Dewislen
English
Cysylltwch

Dyfarniadau Cymru Greadigol 2016/17

Cyhoeddwyd Gwe 13 Ion 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dyfarniadau Cymru Greadigol 2016/17
Tri awdur ymysg enillwyr Gwobrau Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enw’r artistiaid sydd yn derbyn Dyfarniadau Cymru Greadigol eleni. Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni yn G39, oriel gelf gyfoes Caerdydd, ar Ddydd Iau 12 Ionawr. Mae’r dyfanriadau’n cydnabod y doniau gorau a’r potensial sydd gan artistiaid Cymreig unigol sy’n gwneud cais am y cyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Mae’r dyfarniadau blynyddol yn cynnig hyd at £25,000 i alluogi artistiaid i gymryd amser i arbrofi, arloesi a datblygu eu gwaith. Y bwriad yw datblygu ardderchowgrwydd drwy gynnig cyfle i artistiaid mwyaf diddorol Cymru i wneud gwaith ymchwil a datblygu.

Mae’r awduron Gwyneth Lewis, Zillah Bowes a Kaite O’Reilly wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol 2016/17. Mae’r tair wedi derbyn Ysgoloriaeth i Awduron gan Llenyddiaeth Cymru yn y gorffennol.

Derbynnydd Gwobr Cymru Greadigol – Cymrodoriaeth Gŵyl Ryngwladol y Gelli eleni yw’r awdur plant Jenny Valentine.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Dyfarniadau Cymru Greadigol yw cyfle Cyngor Celfyddydau Cymru i gydnabod rhai o’n talentau rhagorol. Rydym yn eu dyfarnu i artistiaid yn ystod cyfnod arwyddocaol yn eu gyrfaoedd wrth iddynt gymryd y penderfyniad dewr i archwilio ffyrdd newydd o weithio a chreu celf. Rydym yn edrych ymlaen at weld pa ddylanwad bydd y dyfarniadau yn eu cael er eu gwaith a sut y bydd eu creadigrwydd yn blodeuo yn y dyfodol.”

Gellir gweld y rhestr gyflawn o’r enillwyr ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Llenyddiaeth Cymru