Dewislen
English
Cysylltwch

The Edward Stanford Travel Writing Awards

Cyhoeddwyd Llu 5 Chw 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
The Edward Stanford Travel Writing Awards
Ffoto: MLR Photo

Mae’r awdures a’r newyddiadurwraig Jan Morris CBE, FRSL, wedi derbyn gwobr am ei chyfraniad arbennig i ysgrifennu teithio gan The Edward Stanford Travel Writing Awards, mewn cydweithrediad â’r arbenigwyr teithio moethus Hayes & Jarvis. Wedi treulio dros hanner ei bywyd yn teithio, ac wedi ysgrifennu dros 40 o lyfrau a thraethodau, erthyglau ac adolygiadau lu, caiffJan Morris ei disgrifio fel yr awdur disgrifiadol gorau o’i chyfnod, ac fel un sydd wedi cyflwyno’r byd i gymaint o bobl drwy gyfrwng ei gwaith. Bydd In My Mind’s Eye, cyfrol ddyddiadur gyntaf Jan yn cael ei chyhoeddi gan Faber ym mis Medi 2018.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Jan: “Dydw i ddim yn ‘sgwennu am y daith na’r teithio ei hun, nac am y lle mewn gwirionedd. ‘Sgwennu ydw i am yr effaith a gaiff y lle ar synhwyrau’r unigolyn… Diolch o galon am fy ngwobr. Mae’n hardd iawn ac yn addas dros ben i rywun sydd wedi treulio cymaint o’u hamser yn edrych ar ac yn meddwl am y byd.”

Derbyniodd Tristan Hughes wobr Hayes & Jarvis am Ffuglen, am ei nofel ddiweddaraf Hummingbird (Parthian Books), sy’n daith emosiynol drwy anialwch Canada. Daeth i’r brig ymysg cystadleuaeth gref gan Nicole Dennis-Benn gyda Here Comes the Sun, a Pachinko gan Min Jin Lee. Llongyfarchiadau I Jan a Tristan ar eu llwyddiant!

Cynhaliwyd y gwobrau ar 1 Chwefror yng ngŵyl Stanfords Travel Writing Festival yn Olympia. Derbyniodd pob enillydd dlws o glôb hen ffasiwn.

Literature Wales