Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad am geisiadau: Cynrychioli Pawb – Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli

Cyhoeddwyd Gwe 19 Gor 2019
Galwad am geisiadau: Cynrychioli Pawb – Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun nawdd newydd i awduron sy’n byw yng Nghymru ac sydd o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ac awduron sydd ag anabledd neu salwch (meddyliol neu gorfforol).

Mae Cynrychioli Pawb yn gynllun nawdd peilot sy’n cynnig grantiau rhwng £50 a £1000 ar gyfer cyfle datblygu proffesiynol cysylltiedig â llenyddiaeth. Nod y cynllun yw annog awduron o gefndiroedd a gaiff eu tangynrychioli i ddatblygu eu potensial proffesiynol ac artistig a chreu cyfleoedd fyddai’n rhoi hwb i’w gyrfa.

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-22 yn nodi bod Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o’n prif flaenoriaethau tactegol. Rydym yn credu y dylai pob unigolyn, waeth beth fo’u cefndir, deimlo y caent eu cynnwys a bod ganddynt ryddid i lywio, cyfrannu at a theimlo perchnogaeth dros y byd llenyddiaeth yng Nghymru.

Gall awduron wneud cais am nawdd tuag at gyfle datblygiad proffesiynol o’u dewis. Gall rhain gynnwys: mynychu digwyddiad neu gynhadledd; cysgodi awdur at ddibenion hyfforddiant a datblygiad; costau i ddatblygu dull newydd o weithio; neu gyflawni cyfres o weithdai llenyddol yn y gymuned.

Croesewir ceisiadau gan awduron sy’n byw yng Nghymru beth bynnag eu ffurf llenyddol – o farddoniaeth a rhyddiaith, i rap, perfformio barddoniaeth a nofelau graffeg.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg. Trwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn gwneud mwy i feithrin amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol. Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd. Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb.”

Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhan o gynllun Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood, sy’n cefnogi sefydliadau celfyddydol i wella eu dulliau recriwtio a datblygu talent. Rydym wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod helaeth o gefndiroedd, sy’n cynnwys asesu ceisiadau yn rhannol ar sail eu potensial.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00 pm dydd Mercher 21 Awst 2019.

 

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a manylion llawn ar gyfer gwneud cais, is-lwythwch y galwad cyhoeddus isod.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi drafod eich cais cyn ei gyflwyno, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru, ar:

post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266

Galwad Cyhoeddus - Cynrychioli Pawb
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 1129KB
Galwad Cyhoeddus - Cynrychioli Pawb - CANLLAW DYSLECSIA
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 154KB
Cynrychioli Pawb - Canllaw a Thempled Cyllideb
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 189KB
Ffurlen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llenyddiaeth Cymru
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 63KB