Dewislen
English
Cysylltu

Gillian Clarke yn 80

Cyhoeddwyd Iau 8 Meh 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
© Marian Delyth
Hoffai Llenyddiaeth Cymru ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Gillian Clarke yn 80 mlwydd oed heddiw, 8 Mehefin 2017.

Fel cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, mae Gillian wedi ysbrydoli miloedd o bobol ar draws y byd gyda pherfformiadau cofiadwy o’i barddoniaeth. Mae’n cydweithio’n rheolaidd gydag awduron yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac wedi ei chomisiynu i gyfansoddi geiriau ar gyfer nifer o brosiectau pensaernïol arwyddocaol yn ogystal â cherddi i goffau digwyddiadau cenedlaethol a cherddi i anrhydeddu unigolion a sefydliadau arbennig.

Er iddi gael ei geni yng Nghaerdydd, Talgarreg yng Ngheredigion yw ei milltir sgwâr ers rhai blynyddoedd. Y mae hi’r un mor gyfforddus yn darllen ei gwaith mewn tŷ tafarn clyd ag ydyw o flaen miloedd o ddisgyblion ysgol fel rhan o raglen Poetry Live!, neu ar lwyfan un o’r nifer o wyliau rhyngwladol sy’n ei gwahodd i ddarllen ei gwaith yn flynyddol. Mae gan bobl ifainc berthynas arbennig â Gillian a’i gwaith, a chaiff ei cherddi eu cynnwys ar faes llafur TGAU a Lefel A ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Mae Gillian wedi codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ymysg cynulleidfaoedd rhyngwladol ac yn aml yn cyhoeddi ei gwaith yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Derbyniodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010 a Gwobr Wifred Owen yn 2012.

Yn ogystal â barddoniaeth, mae Gillian wedi ysgrifennu ar gyfer y radio, wedi cyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith o’r Gymraeg, ac wedi darlledu ar sianeli radio a theledu cenedlaethol. Fel Llywydd yr Academi Gymreig a chyd-sylfaenydd a Llywydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae ei chyfraniad i lenyddiaeth Cymru yn ddiguro.

Pen-blwydd Hapus Gillian!


 

Taliesin
(i Gillian Clarke yn 80 oed)

Bûm dderwen yn rholio’i sgwyddau’n y gwynt
a chymylau’r machlud yn chwythu i’w hynt;
bûm lwynog celain mewn gwisg o glêr,
a rheg o ddiolch gan ffarmwr blêr.

Bûm löyn byw ar dalcen tŷ
a’i dlysni’n rhydu dan hoelion cry’;
bûm binsiad o ansoddeiriau syn
a chusan rasal ar goesau gwyn.

Bûm haul amheuthun ar wegil sant
cyn crasu’n lledr agweddau ei blant;
bûm sêr mewn cawl ar noson hwyr –
‘pwy saif i’n herbyn?’ Pwy a ŵyr?

Bûm sbectol ddydd Mercher, a hithau’n ddydd Llun,
bûm gof a dychymyg, i gyd yn un;
bûm lestr yn mynd o law i law…
bûm ddolen mewn cadwyn ddi-bendraw…

Gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru