Dewislen
English
Cysylltu

Graffeg i roi copiau o Geiriau Diflanedig i bob ysgol gynradd yng Nghymru drwy gyllido torfol

Cyhoeddwyd Iau 8 Awst 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Mae’r cyhoeddwr annibynnol o Gymru, Graffeg, wedi lawnsio ymgyrch cyllido torfol i roi copi o addasiad Cymraeg The Lost Words, Geiriau Diflanedig, gan Robert Macfarlane, Jackie Morris and Mererid Hopwood, i bob ysgol gynradd yng Nghymru.

Ers ei gyhoeddi ym mis Hydref 2017, mae The Lost Words wedi dal dychymyg llawer o ddarllenwyr, gyda nifer fawr o gynlluniau cyllido torfol llwyddiannus yn sicrhau bod miloedd o ysgolion ar draws y DU yn cael copïau ohono. Mae Graffeg yn gobeithio codi £16,700 i dalu cost rhoi copi o Geiriau Diflanedig i bob un o’r 1,287 o ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae Graffeg yn rhedeg yr ymgyrch yma fel menter gwbl ddielw gyda’r holl arian a godir yn talu am gost uned y llyfr ynghyd â chostau dosbarthu i ysgolion.

Mae’r ymgyrch cyllido torfol wedi cael ei hyrwyddo gan Jackie Morris sy’n rhoi gwaith celf wreiddiol fel cymhellion ychwanegol i bobl roi at yr ymgyrch. Ymhlith y cymhellion mae copïau o Geiriau Diflanedig wedi’u llofnodi gan y tri chrëwr a phaentiadau Dwrgi gwreiddiol gan Jackie Morris. Dywedodd Jackie Morris ‘Rwy’n gobeithio y bydd ein llyfr – fy un i, Robert a Mererid – yn cyrraedd pob ysgol yng Nghymru.

 

I roi i ymgyrch ‘Geiriau Diflanedig i bob ysgol gynradd yng Nghymru’ ymwelwch â thudalen Crowdfunder: www.crowdfunder.co.uk/geiriau-diflanedig-for-primary-schools-in-wales

Literature Wales