Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru 2020 – Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press 2020 yn cyhoeddi enwau’r awduron llwyddiannus

Cyhoeddwyd Maw 4 Chw 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru 2020 –  Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press 2020 yn cyhoeddi enwau’r awduron llwyddiannus
Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn falch o gyhoeddi eu buddsoddiad mewn tri egin awdur o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n byw yng Nghymru

Cafodd y wobr hon, sy’n cael ei redeg ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press, ei lansio er mwyn rhoi cyfle i feirdd plant o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n byw yng Nghymru ddatblygu a mireinio eu sgiliau.  Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn falch o gyhoeddi y bydd tri bardd addawol iawn yn derbyn gwobrau Rising Stars ym mlwyddyn gyntaf y cynllun.

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyflwyno’r tri bardd llwyddiannus a’r gwobrau y byddent yn eu derbyn:

Alex Wharton fydd yn derbyn y brif wobr:

  • 4 noson yn Encil Awduron Nant sy’n werth £400 – aros yn y bwthyn hanesyddol, rhestredig Gradd II* sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar. Bwthyn hunangynhaliol gyda’r holl gyfleusterau yw hwn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae’n lle tawel, cyfforddus i ganolbwyntio ar y gwaith sydd gennych chi ar y gweill, i roi’r cyffyrddiadau olaf i’ch ysgrifennu, neu i gael hwb creadigol.
  • Gwobr ariannol o £250 wedi’i noddi gan Quarto Translations.
  • Darnau penodol o waith wedi’u cyhoeddi ar wefannau Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press.

Bydd Sadia Pineda Hameed a Taylor Edmonds ill dwy hefyd derbyn y gwobrau isod ac yn cael eu datblygu ymhellach:

  • Gwobr ariannol o £100 yr un.
  • Cyfle i gysgodi a chymryd rhan mewn gweithdy i ysgolion gan Eloise Williams, y Children’s Laurate Wales.
  • Darnau penodol o waith wedi’u cyhoeddi ar wefannau Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sector llenyddiaeth drwy bennu Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o’n prif flaenoriaethau yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022. Credwn fod sicrhau cynrychiolaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru ymhlith ein hartistiaid a’n gweithiau llenyddol yn hollbwysig er mwyn dyfodol ein llenyddiaeth, ein cymdeithas, ein heconomi a’n diwylliant. O ganlyniad, mae’r cynllun hwn yn rhan o’n gwaith buddsoddi mewn egin awduron, rhan anatod o Ddatblygu Awduron, un o’n tair colofn gweithgaredd, ac yn allweddol yn ein gwaith i geisio sicrhau diwylliant llenyddol cenedlaethol sy’n cynrychioli’r Gymru gyfoes.

Ymhlith awduron Cymru, dylai fod pobl o wahanol oedran, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, rhywedd, rhanbarthau ac ieithoedd, ac ni ddylai mathau penodol, cyfyngedig o ddemograffeg eu nodweddu. O ganlyniad, mae buddsoddi mewn awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn gam hanfodol ymlaen at sicrhau nad oes unrhyw rwystrau mewn llenyddiaeth. Dylid bod gan bob unigolyn y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, a dylai bod cyfle cyfartal gan bawb. Ar sail hyn, rydym yn gweithio’n galed i dargedu gweithgareddau ar gyfer yr unigolion a’r cymunedau hyn gyda’r nod o ddenu, cefnogi a chryfhau lleisiau llenyddol sydd wedi’u tangynrychioli.


 

Uwch-arolygwr Adeiladu yw Alexander Wharton o Dorfaen, pan nad yw’n brysur yn ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ei waith i’w weld yn aml yn The Caterpillar, Wales Haiku Journal, Hedgerow ac I am not a silent poet. Yn ôl y panel mae Alex yn awdur plant hyderus â syniadau creadigol gref, a’i waith yn ‘ddoniol, yn fympwyol ac yn ffraeth’. Mae’n arwain nosweithiau’r Cardiff Arts free festival yn gyson, yn aml yn perffomrio ei farddoniaeth mewn ysgolion, ac yn hwyluso gweithdai ysgrifennu gyda’r myfyrwyr. Mae wedi cwblhau sawl cwrs Ysgrifennu Creadigol fer arlein gyda’r Brifysgol Agored a Future Learn, ac mae’n gobeithio astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn y dyfodol agos.    


 

Awdures ac artist hanner-Ffilipina a hanner-Pakistani o Gaerdydd yw Sadia Pineda Hameed. Mae ganddi brofiad o ysgrifennu barddoniaeth, o arbrofi gyda rhyddiaith, traethodau creadigol, a pherfformiadau gair ar lafar. Hi yw un o gydlynwyr LUMIN, gwasg annibynnol fechan sy’n cyhoeddi gwaith awduron sydd wedi eu tan-gynrychioli yng Nghymru. Daw ei diddordeb mewn ysgrifennu o etifeddiaeth o hanes llafar, colled ôl-drefedigol, crefft, ac o freuddwydio. Mae ei gwaith yn cyffwrdd ar themâu eang fel ei hunaniaeth BAME, perthyn, lle, a theulu, ac yn ôl y panel mae ymdeimlad gref o densiwn rhwng hiraeth, cariad a cholled yn ei gwaith. Mae hi’n grediniol y dylai iaith fod yn rhyngwladol, yn berthnasol, ac yn hawdd i bobl o bob oed, profiad a rhuglder ei ddeall. O ganlyniad, mae hi’n ystyried profiad clywedol, eglurdeb a iaith dydd i dydd yn fanwl wrth ysgrifennu.


 

Derbyniodd Taylor Edmonds, awdur a pherfformwraig, radd Anrhydedd mewn MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar. Mae hi’n gweld ysgrifennu fel ffordd o fynegi ei hun ac fel ffordd o ymgysylltu ac eraill. Mae hi’n aelod o dîm cyfres meic agored Where I’m Coming From, sydd wedi ei anelu’n bennaf, ond nid yn gyfyngedig i, artistiaid ac awduron BAME yng Nghymru. Mae hi’n angerddol dros sicrhau bod barddoniaeth ar gael i bawb, yn enwedig rhai o’r rheiny sydd o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli. Mae ei chyhoeddiadau wedi ymddangos ar amrywiol blatfformau megis BBC Cymru Sesh, Wales Arts Review, Butcher’s Dog Magazine, antholeg Cheval, a’r The Cardiff Review, ac yn ddiweddar fe gafodd Taylor y cyfle i weithio ar briosiectau gyda’r Nescio Ensemble, Cyngor Celfyddydau Cymru a The Severn Estuary Partnership. Caiff straeon Taylor eu haddrodd trwy ddelweddau cryf a thrwy rhythmau, ac fe greda’r beirniaid bod ganddi ‘ddealltwriaeth wych o stori ac o luniau’.

 

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022, rydym wedi datgan ein ymrwymiad at fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sector llenyddiaeth drwy bennu Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o’n prif flaenoriaethau.

Cyhoeddwr annibynnol llyfrau plant a phobl ifanc yw Firefly Press, a chanddynt swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Aberystwyth. Ers eu sefydlu 2013, Firefly yw’r unig gyhoeddwr yng Nghymru sy’n bodoli’n unswydd ar gyfer plant. Mae’n cyhoeddi ffuglen o safon mewn genres o bob math i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 19 oed ac maent wedi ennill gwobrau niferus am eu gwaith. Eu nod yw cyhoeddi llyfrau gan awduron a darlunwyr gwych, waeth o ble y daw’r rheini. Ymhlith eu llwyddiannau diweddar y mae The Clockwork Crow gan Catherine Fisher, a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Llyfrau Blue Peter ac a enillodd Wobr Tir na N’og, ac Aubrey and the Terrible Yoot gan Horatio Clare, a enillodd wobr Branford Boase am y nofel gyntaf orau i blant.

 

Yn ôl Penny Thomas o Firefly Press:

“O jellybeans i ham brwision pupur, cawn wledd o gerddi plant amrywiol ar flwyddyn gyntaf y wobr hon – mae bron yn bosib blasu’r cerddi! Rydym wrth ein bodd bod yn rhan o’r wobr hon ac rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at fwy o farddoniaeth o Gymru y bydd plant o bob cefndir yn eu mwynhau. Mae’n hynod gyffrous hefyd fod y wobr hon wedi golygu bod Firefly am gyhoeddi llyfr barddoniaeth i blant am y tro cyntaf, wrth i Daydreams and Jellybeans gan yr hynod ddawnus Alex Wharton gael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Quarto Press:

‘Mae gan gyfieithiadau’r ddawn i agor drysau i ddiwylliannau newydd ac i uno pobl. Rydym yn hynod falch o noddi’r wobr hon gan bod Quatro Translations yn credu’n gryf mai dyma’n union a wna Gwobr Rising Stars Cymru hefyd. Yn ogystal ac ysu i weld eu hunain mewn llyfrau, mae darllenwyr hefyd yn cael eu dennu at gymeriadau a syniadau newydd…’

Yn ôl Alex Wharton:

“Rwyf yn hynod ddiolchgar o dderbyn y wobr hon gan fy mod yn teimlo ei fod yn cydnabod fy angerdd a fy ymrwyiad at ysgrifennu barddoniaeth i blant. Yn barod, mae wedi agor drws at gyfle anhygoel i mi gan y bydd Firefly yn cyhoeddi fy nghyfrol o gerddi, Daydreams and Jellybeans yn gynnar y flwyddyn nesaf. Caiff cerddi eu hysgrifennu i’w rhannu, ac fe gyrrhaeddant y rheiny sydd eu hangen hwy. Mae’r wobr hon wedi agor llwyfan newydd i nghwaith. Mae’n gyffrous iawn a dwi’n ddiolchgar dros ben.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’r prosiect hwn, mewn partneriaeth â Firefly Press yn eithriadol o werthfawr. Mae’r wobr yn taro golau ar dri awdur talentog, gan roi llwyfan i’w cerddi, a chynnig cyfleoedd gwirioneddol iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd. Rydym eisoes wedi gweld sut y gall y wobr gael effaith sylweddol ar yrfa awdur, gyda Firefly Press yn ymrwymo i gyhoeddi casgliad cyntaf o gerddi Alex Wharton i blant yn 2021. Dyma gyfnod llawn cyffro i ddiwylliant llenyddol Cymru.”

Literature Wales