Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yng Ngŵyl Transpoesie, Brwsel

Cyhoeddwyd Llu 14 Hyd 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yng Ngŵyl Transpoesie, Brwsel

Ar ddydd Iau 26 Medi, sef Diwrnod swyddogol Ieithoedd Ewrop, fe agorodd Gwyl Transpoesie ym Mrwsel. Mae’r ŵyl hon yn dathlu diwylliannau Ewrop drwy farddoniaeth, ac eleni mae llais Cymru yn cael ei ddathlu ochr yn ochr â’i chymdogion Ewropeaidd. Cynhelir yr ŵyl o 26 Medi tan 17 Hydref, ac mae 22 o wledydd a rhanbarthau yn cymryd rhan trwy rannu cerddi yn eu hieithoedd brodorol gyda chyfieithiadau yn Ffrangeg, Saesneg ac Iseldireg.

“Dathlu amrywiaeth Ewrop trwy farddoniaeth”

Mae cerdd o Gymru gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn un o’r rheini a fydd yn ymddangos ar hyd a lled strydoedd Brwsel fel rhan o’r arlwy. Gallwch ddarllen Hydref Eto, a gwylio fideo o Ifor yn ei pherfformio ar wefan Transpoesie: http://www.transpoesie.eu/poems/859

Fe fydd Ifor hefyd yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad ym Mrwsel ar 17 Hydref gan rannu llwyfan gyda’r beirdd Roseanne Watt o’r Alban, Maire Zepf o Ogledd Iwerddon, Jonas Rasmussen o Sweden a Haukur Ingarvsson o Wlad yr Ia. Yn teithio i Frwsel gydag Ifor ap Glyn y mae Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, sydd wedi ei gwahodd i gyd-gadeirio digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan swyddfeydd llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym Mrwsel ar y cyd ag Asif Khan, Cyfarwyddwr y Scottish Poetry Library.

 

Cyflwyno Llenyddiaeth Cymru i’r Byd

Yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022, rydym wedi strwythuro ein holl weithgareddau o dan dair Colofn Gweithgaredd, ac mae ein ymglymiad â Gŵyl Transpoesie yn elfen bwysig o’r Golofn Diwylliant Llenyddol Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Rydym wrth ein boddau o gael bod yn rhan o raglen yr ŵyl bwysig hon. Rydym yn defnyddio barddoniaeth i ddiffinio ein hunain fel cenedl; i ni ein hunain ac i’r byd. Dyma gyfle euraidd i Ifor ap Glyn, yn ei rôl fel llysgennad diwylliannol ddefnyddio barddoniaeth i rannu ein diwylliant a’n hiaith a ffurfio cysylltiadau cryfach â’n cyfeillion dros Ewrop.”

Manylion y Digwyddiadau

17 Hydref, 12.30 pm

Swyddfa Gogledd Iwerddon, Brwsel

Darlleniadau barddoniaeth wedi eu cyd-gadeirio gan Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru ac Asif Khan, Cyfarwyddwr y Scottish Poetry Library.

Ceir darlleniadau gan Ifor ap Glyn, Roseanne Watt (Yr Alban) a Maire Zepf (Gogledd Iwerddon). Mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu gan swyddfeydd llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym Mrwsel.

 

17 Hydref, 7.00 pm

LOFT 58, Rue des Alexiens 2, 1000 Bruxelles

Darlleniadau barddoniaeth gan Ifor ap Glyn a Roseanne Watt o’r Alban, Maire Zepf o Ogledd Iwerddon, Jonas Rasmussen o Sweden a Haukur Ingarvsson o Wlad yr Ia. Mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu gan Transpoesie mewn cydweithrediad â MondoCultures.