Lleisio – Cerdd i nodi Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi comisiynu Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru i ysgrifennu’r gerdd hon, ‘Lleisio’, i nodi lansiad Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO. Mae’r dathliad blwyddyn o hyd hwn yn gyfle arbennig i ddathlu diwylliannau amlieithog, bywiog Cymru a’i rhan ym mrodwaith ieithyddol cyfoethog y byd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://en.iyil2019.org/
Lleisio
(wrth lansio Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019, yma yng Nghymru)
nomina si pereunt, perit et cognitio rerum
“os derfydd enwau,
derfydd hefyd dirnad pethau”.
Dwedwch felly, fawrion o wybodaeth,
ym mha fodd mae achub iaith?
Nid trwy’i chofnodi, na’i chysegru,
na chloi’i geiriau’n gacamwci gludiog
a lyno wrth y sawl
sy’n stelcian hyd ein cloddiau;
cans cadno wedi’i stwffio
yw pob Cymraeg llyfr;
ei ‘untroed oediog’ ni syfla mwy,
a’i lygaid gwydr sydd ddall.
Yn y llafar y mae ei lleufer;
a thafodau plant yw ei pharhâd.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
27.1.19