Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru 
yn buddsoddi mewn egin awduron a darlunwyr

Cyhoeddwyd Maw 18 Rhag 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru 
yn buddsoddi mewn egin awduron a darlunwyr
Mae Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enwau’r 16 unigolyn sydd wedi ennill lle ar eu Cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant. Cynhelir y cwrs, a drefnir ar y cyd rhwng y ddau sefydliad, yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Chwefror 2019. 

Ym mis Medi 2018 agorwyd proses ymgeisio agored ynghyd â chyhoeddiad mai’r tiwtoriaid fydd neb llai na’r darlunydd enwog, Jac Jones, creawdwr lluniau gwreiddiol Jac y Jwc; a’r awdur profiadol a Phrif Lenor Eisteddfod Caerdydd 2018, Manon Steffan Ros. Daeth 45 ymgais cryf i law, ac ohonynt dewiswyd wyth awdur ac wyth darlunydd. 

Bydd y cwrs dwys yn darparu arweiniad ar y grefft o arlunio ac ysgrifennu i blant 3-7 oed, gyda’r gobaith o lenwi silffoedd siopau llyfrau’r dyfodol â chyhoeddiadau lliwgar, gwreiddiol, Cymraeg i blant. Dyma weld dau sefydliad llenyddol yng Nghymru yn buddsoddi mewn egin awduron, gan feithrin eu sgiliau yn y maes hollbwysig hwn. Mae’r cwrs yn ffurfio rhan o strategaeth Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu awduron, a darparu hyfforddiant i’r rheini ar ddechrau eu gyrfa. Bydd y cwrs hefyd yn ymateb i alw’r Cyngor Llyfrau am ragor o arbenigedd ym maes ysgrifennu ar darlunio i blant bach.

Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai ymarferol, astudiaeth o’r maes llyfrau plant yng Nghymru a dros y byd, ac ymweliadau gan awduron gwadd yn cynnwys yr arbenigwr llên plant, Prue Goodwin, a’r darlunydd Thomas Docherty. Bydd y cwrs yn dod i ben ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda chyfle i’r awduron a darlunwyr gynnig syniadau, a rhwydweithio â golygyddion rhai o brif weisg Cymru. 

Mae’r grŵp sydd wedi eu dewis i fynychu’r cwrs yn gymysgedd o egin awduron a darlunwyr sy’n troi eu llaw at lyfrau plant am y tro cyntaf, ac ambell un sydd ag ychydig o brofiad eisoes. Yr wyth awdur sydd wedi ei dewis yw Anna George, Bethan Jones, Carys Glyn, Gwennan Evans, Llio Maddocks, Mari Siôn, Rhian Cadwaladr a Sioned Wyn Roberts. Y darlunwyr fydd Bethan Mai, Leonie Servini, Leri Tecwyn, Luned Aaron, Ruth Jên, Seran Dolma, Sioned Medi Evans a Telor Gwyn.

Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, “Yn 2016 comisiynodd y Cyngor Llyfrau y Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, i edrych ar farchnad llyfrau plant a phobl ifanc ac mae’n braf gweld cam ymarferol a chreadigol arall yn deillio o’r adroddiad hwnnw. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i’r diwydiant llyfrau plant yng Nghymru.”

Meddai Leusa Llewelyn, Pennaeth Canolfan Tŷ Newydd: “Rydym ni wedi gwirioni o weld cymaint o ymateb i’r cwrs hwn, mae llenyddiaeth plant Cymru mewn dwylo diogel. Braf yw cael cynnig cwrs ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau. Trwy gydweithio fel hyn gallwn gynnig llwybr datblygiad clir – o finiogi crefft, i weithio mewn partneriaeth, i gynnig syniad i wasg, i gyhoeddi, gobeithio!”

 

Bywgraffiadau’r Awduron a Dylunwyr

 

Mae Anna George yn dod o Frynrefail. Ymchwilydd gyda Radio Cymru yw hi o ddydd i ddydd, ac mae’n rhoi ambell wers Gymraeg i oedolion gyda’r nos. Roedd eisiau lle ar y cwrs gan ei bod yn teimlo ei bod dal yn blentyn yn y bôn, ac mae’n parhau i ddarllen llyfrau plant yn ei hamser sbâr! Yn hogan fach, Strempan a Jemima Nicholas oedd ei harwresau, ac un o’i hoff gyfrolau oedd Hwiangerddi’r Dref Wen. Mae’n edrych ’mlaen at ddatblygu rhai o’r cymeriadau sy’n ffrwtian yn ei phen, a chael cwmni llu o bobl sydd isio gwneud yr un fath.

 

Mae Bethan Mai yn fam i Tanwen Antur a’u ci Myfi Mwg a’n briod i Ynyr, ei chyd-ganwr yn y band Rogue Jones. Mae dod yn fam am y tro cyntaf yn ddiweddar wedi bod yn brofiad anhygoel ac ysbrydoliaethus i Bethan, ac un o’r manteision iddi yw cael ail-ymweld â byd hudolus llyfrau plant. Daw Bethan o’r gorllewin gwyllt ac mae’r llyfr Lle Mae’r Pethau Gwyllt yn Byw (cyfieithiad o Where the Wild Things Are gan Maurice Sendak) yn un sy’n agos i’w chalon gan ei bod yn teimlo fel un ohonynt.

 

Mae Bethan Jones yn byw yng Nghwmann, Sir Gâr, gyda’i gŵr Owain a’u hefeilliaid 3 blwydd oed, Osian a Sara. Mae’n gweithio i adran addysg Ceredigion fel athrawes ymgynghorol Cyfnod Sylfaen. Un o’i hoff atgofion pan oedd yn fach oedd cael dewis llyfr o’r cwtsh bach cefn yn Siop y Pethe, Aberystwyth. Ei ffefrynnau bryd hynny a hyd heddiw oedd Rala Rwdins gan Angharad Tomos. Ers dod yn fam yn 2015 mae wedi profi a blasu ystod eang o lyfrau bendigedig fel Deg Deinosor BachBwystfil yn fy OergellMerch y Mêl ac Alun yr Arth. Ei gobeithion o gwblhau’r cwrs yw y bydd yn cael cyhoeddi llyfr gwreiddiol i ysbrydoli a rhoi mwynhad i blant.

Athrawes o’r Fenni yw Carys Glyn, lle mae’n byw gyda’i gŵr a’i thri plentyn. Pan nad yw’n gwneud gwaith ysgol mae’n cymryd unrhyw gyfle i agor y gliniadur a dechrau teipio! Mae wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd yn ysgrifennu a golygu llyfr Saesneg i blant, mae hefyd wedi bod yn brysur yn casglu syniadau ar gyfer llyfrau lluniau i blant. Mae’n gwirioni ar gwaith Shirley Hughes, hiwmor llyfrau Jill Murphy a Sue Hendra ac dawn adrodd stori Julia Donaldson.

 

Mae Gwennan Evans yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod o Ddyffryn Cothi. Ei gwaith yw creu trêls i BBC Radio Cymru. Mae ganddi fab 15 mis oed ac o’r herwydd mae wedi dechrau ymddiddori mewn llyfrau plant o’r newydd. Mae’n hoff o farddoni felly mae’n awyddus i edrych ar rythm ac odl o fewn llyfrau plant bach. Mae dysgu sut i ddatblygu hiwmor hefyd yn bwysig iddi. Pan oedd yn fach, roedd stori am foch bach nad oedden nhw’n fodlon bwyta dim ond sôs coch yn dipyn o ffefryn a byddai ei Mam yn creu straeon gwych iddi am deulu o adar pan oedd yn sâl – falle y bydd yn rhannu rhain ar y cwrs!

 

Un o Drelogan, pentref bychan yn y gogledd ddwyrain yw Leonie Servini yn wreiddiol. Mae wedi byw yng Nghaerdydd ers degawd, ac mae’n gweithio i adran newyddion a materion cyfoes y BBC fel cydlynydd newyddiaduraeth. Mae’n ceisio datblygu ei gwaith celf a darlunio yn ei hamser sbâr. Mae ganddi atgofion melys o ddarllen llyfr Rufus Round and Round gan Hilda van Stockum ar lin ei mam yn blentyn bach – stori syml am gi llawn egni yn darganfod ei le yn y byd. Mae’r copi dal gan Leonie ac mae dal yn gwneud iddi wenu!

 

Magwyd Leri Tecwyn yng nghanol tirwedd gwyllt Eryri, sydd wedi ysbrydoli ei gwaith celf. Erbyn hyn mae hi’n rhannu ei hamser rhwng gogledd Cymru a Bryste lle cwblhaodd ei gradd mewn Darlunio. Mae hi’n gweithio’n llawrydd yn bennaf fel darlunydd ond hefyd yn gweithio gyda chwmnïau amrywiol i beintio, adeiladu a dylunio setiau ac addurniadau i wahanol ddigwyddiadau a gwyliau. Tra’n blentyn roedd straeon y Mabinogi yn tanio ei dychymyg ac mae hi’n dal i greu gwaith sydd wedi eu dylanwadu gan y straeon hynafol yma.

 

Daw Llio Maddocks o Lan Ffestiniog, ac mae hi wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn teithio o amgylch Asia gyda’i bac pac. Ei hoff lyfrau plant yw Cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos, ac mae helyntion cymeriadau Gwlad y Rwla yn dal i wneud iddi chwerthin (yn enwedig yn Diwrnod Golchi!). Mae hi wedi addasu cyfres Mali Awyr gan Gwasg Gomer i’r Gymraeg, ond mae hi nawr yn edrych ymlaen yn arw i greu straeon gwreiddiol ar gyfer plant ifanc Cymru.

 

Ffotograffydd: Ffion Rhys

Mae Luned Aaron yn artist a gwneuthurwr llyfrau sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda’i gŵr Huw, a’u dwy ferch, Eos ac Olwen. Rhai o’r llyfrau wnaeth ddylanwad arni’n ifanc oedd Cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos a llyfrau Cadwgan gan Elwyn Ioan. Mae’n gwerthfawrogi arddulliau nifer o artistiaid rhyngwladol fel Leo Lionni, Eric Carle a Britta Teckentrup. Ymgeisiodd am le ar y cwrs gan fod y syniad o ddysgu a chreu gyda’r tiwtoriaid Jac Jones a Manon Steffan Ros wrth y llyw, a hynny am wythnos gyfan, yn un hynod gyffrous. Mae’n hyderu y bydd mynychu’r cwrs yn gyfle iddi arbrofi a datblygu sgiliau a syniadau.

 

Treuliodd Mari Siôn ei phlentyndod yn Nyffryn Ceiriog, a’i llencyndod yn ninas Bangor. Yn blentyn, llowciodd lyfrau gan Elizabeth Watcyn Jones, Gwenno Hywyn ac Irma Chilton. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i blant 7-9 oed, Ar Binnau, gan Wasg Gomer yn 2011. Mae bellach yn byw yn Aberystwyth.

 

 

Mae Rhian Cadwaladr yn byw yn Rhosgadfan ac yn gweithio yn llawrydd fel actores, awdur, ac ymarferydd ar brosiectau creadigol i blant. Wedi cyfnod o ddarllen straeon i blant mewn llyfrgelloedd, a sylwi mai cyfieithiadau oedd mwyafrif y llyfrau, addawodd iddi ei hun y byddai’n ceisio creu llyfr stori gwreiddiol erbyn y byddai’n darllen i’w wyrion. A’i phlant nawr yn eu hugeiniau, mae’n hen bryd iddi afael arni! Mae’n hynod falch o gael ymuno â’r cwrs yma er mwyn dysgu am y grefft o ‘sgwennu i blant bach a gweld os yw’r gallu ynddi i greu llyfr stori gwerth chweil.

 

Ffotograffydd: Esther Eckley

Merch o Gefnllwyd ger Aberystwyth yw Ruth Jên. Astudiodd yng Ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd lle graddiodd mewn Celfyddyd Gain gan arbenigo mewn argraffu. Er mae argraffu yw ei phrif weithgarwch, mae wedi ehangu ei sgiliau i gynnwys dylunio, darlunio, murluniau ac addysgu rhan-amser. Mae’n aelod o Argraffwyr Aberystwyth ac yn 2015 derbyniodd Ôl-radd mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n edrych ymlaen at gwrdd, a rhannu profiadau, gydag artistiaid eraill mewn awyrgylch greadigol ac ysbrydoledig. Mae’n edmygu gwaith y darluniwr Tony Ross, yn enwedig ei lyfrau Stone Soup a Little Wolf’s Book of Badness.

 

Mae Seran Dolma yn byw ym Mhenrhyndeudraeth gyda’i phartner, Rhys, a’i phlant, Elis ac Idris. Ei hoff lyfr pan oedd yn blentyn oedd Mr Magnolia gan Quentin Blake. Mae hefyd yn hoff iawn o lyfrau Mwmin gan Tove Janssen, ac mae wrthi’n ail-ddarllen Y Rheino yn Ein Parlwr gan Ole Lund Kirkegaard gyda’r plant. Mae’n edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod pobl eraill “yr un mor wirion â hi”, a chael hwyl yn creu bydoedd newydd gyda nhw!

 

Daw Sioned Medi Evans yn wreiddiol o Ben Llŷn ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd fel ymchwilydd rhaglenni teledu i blant. Caiff ei syniadau a’i gwaith eu dylanwadu gan lyfrau Jon Klassen yn bennaf, am eu symlrwydd, hiwmor a’u darluniau hudol. Mae’n edrych ymlaen yn fawr i gymryd rhan yn y gweithdai amrywiol a chael yr amser a’r rhyddid i ddatblygu syniadau mewn awyrgylch greadigol.

 

Hawlfraint llun: S4C

Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned Roberts yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n gomisiynydd cynnwys plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu’n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda’r BBC. Fel plentyn, ei hoff lyfrau oedd Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones a The Little White Horse gan Elizabeth Goudge ac fel mam i ddau o blant, mae llyfrau lliwgar Lost and Found Oliver Jeffers a Cawl Pwmpen gan Helen Cooper yn ffefrynnau yn ei chartref.

 

Mae Telor Gwyn yn gyfieithydd a darlunydd o Aberystwyth, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i lyfr sgetshio. Yn ei amser sbâr, mae’n helpu i gynnal digwyddiadau animeiddio. Mae’n mwynhau gwneud synnwyr o eiriau pobol eraill o ddydd i ddydd, ond yn ei gweld hi’n llawer haws mynegi ei hun drwy ei luniau. Mae’n hoffi straeon byrion, neu unrhyw fath o stori sydd â mwy nag un haen all roi mwynhad i sawl cynulleidfa ar sawl lefel.

Tŷ Newydd