Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi pen-blwydd ‘Where I’m Coming From’ yn ddwy oed

Cyhoeddwyd Iau 22 Awst 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi pen-blwydd ‘Where I’m Coming From’ yn ddwy oed

Dydd Sul 25 Awst, 12.00 pm – 4.00 pm 

Gerddi Grange, Caerdydd, CF11 7BW

 

Mae ‘Where I’m Coming From’ yn gyfres o nosweithiau perfformio barddoniaeth meic-agored yn Tramshed, Caerdydd, sydd â’r bwriad o roi llwyfan a chefnogaeth i awduron yng Nghymru sy’n cael eu tangynrychioli.

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros gefnogi llenyddiaeth. Mae ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022 yn nodi bod Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn un o’n blaenoriaethau tactegol. Rydym yn credu y dylai pawb, beth bynnag eu cefndir, deimlo’n rhan o’r byd llenyddol, a theimlo rhwydd hynt i’w archwilio, i gyfrannu ato a’i berchnogi.

Mae ‘Where I’m Coming From’ yn gyfres meic-agored sydd wedi ei anelu’n bennaf – ond heb fod yn gyfan-gwbl – at boblogaeth du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae’r nosweithiau’n darparu gofod diogel lle gall llenorion lleol rannu eu teimladau, syniadau a’u barn trwy ddarllen neu berfformio barddoniaeth. Yn ogystal â llwyfan berfformio, mae’r sesiynau’n cynnwys sgyrsiau amrywiol sydd â’r bwriad o leihau’r gwagle rhwng cymunedau, awduron, artistiaid a sefydliadau.

Ar 25 Awst 2019, bydd ‘Where I’m Coming From’ yn dathlu ei ben-blwydd yn ddwy oed gyda Poetry & Picnic in the Park – digwyddiad diwrnod o hyd yng Ngerddi Grange, Caerdydd, a fydd yn cynnwys perfformiadau gan rai o’r cyfranwyr, cerddoriaeth gan artistiaid lleol, stondinau, llyfrau a bwyd.

I gyd-fynd â’r digwyddiad, bydd y grŵp yn lansio antholeg cyntaf ‘Where I’m Coming From’ sy’n llawn gweithiau creadigol gan awduron sydd wedi cyfrannu at y nosweithiau a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.

 

 

Noddir y digwyddiad gan Llenyddiaeth Cymru a phrosiect Cyfuno Llywodraeth Cymru, a gaiff ei arwain gan Amgueddfa Caerdydd.