Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn dathlu Pen-blwydd Diwrnod Barddoniaeth yn 25 Oed

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn dathlu Pen-blwydd Diwrnod Barddoniaeth yn 25 Oed
Mae Diwrnod Barddoniaeth yn dathlu 25 mlynedd yr hydref hwn. Bydd digwyddiadau a dathliadau ar-lein yn cael eu cynnal ledled y DU ar ddydd Iau 3 Hydref.

Mae Diwrnod Barddoniaeth yn ddathliad blynyddol sy’n ysbrydoli pobl i fwynhau, darganfod a rhannu cerddi. Gwahoddir pawb i ymuno trwy drefnu digwyddiadau, arddangosfeydd a chystadlaethau, neu drwy rannu hoff linellau o farddoniaeth ar rwydweithiau cymdeithasol gan ddefnyddio #diwrnodbarddoniaeth. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i: www.nationalpoetryday.co.uk

Unwaith eto eleni, mae Llenyddiaeth Cymru ynglwm â nifer o brosiectau a digwyddiadau yn y byd barddonol!

 

Cardiau post ac adnoddau barddoniaeth

Mae Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â’r Scottish Poetry Library a Forward Arts Foundation wedi creu set o chwe cherdyn post barddoniaeth unigryw.

Mae pob un o’r cardiau yn cynnwys cerdd wahanol ar y thema ‘Gwirionedd’, sef thema Diwrnod Barddoniaeth eleni. Mae’r set hefyd yn nodi Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO gyda cherddi yn yr ieithoedd Gaeleg, Albaneg, Cymraeg, Cernyweg, Manaweg a Saesneg.

Ymhlith y cerddi a ddewiswyd mae gwaith gan Anne Frater, William Soutar, Robert Corteen Carswell a Donald R. Rawe ynghyd â dwy gerdd wreiddiol gan y Bardd Plant Cymru cyfredol a blaenorol, Gruffudd Owen a Casia Wiliam.

Mae Gruffudd a Casia hefyd wedi creu adnoddau addysgol yn seiliedig ar y thema ‘Gwirionedd’. Cliciwch yma i islwytho adnodd Cymraeg Casia. Gellir islwytho adnodd dwyieithog Gruffudd ar waelod y dudalen hon.

Mae traciau sain ac adnoddau addysgol pellach yn seiliedig ar y chwe cherdd ar gael drwy wefan Scottish Poetry Library. http://www.scottishpoetrylibrary.org.uk

Mae’r cardiau post ar gael i ysgolion, llyfrgelloedd ac i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim drwy Llenyddiaeth Cymru. E-bostiwch post@llenyddiaethcymru.org gyda’ch cyfeiriad a nifer y setiau (chwe cherdyn y set) yr hoffech eu derbyn. Nodwch: nifer cyfyngedig o setiau sydd ar gael.

 

Gweithdai yn Nhŷ Newydd

Yn ogystal ag ysgrifennu cerddi ac adnoddau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, bydd Gruffudd Owen a Casia Wiliam hefyd yn arwain diwrnod o weithdai fel rhan o’r dathliadau. Bydd plant o Ysgol Treferthyr, Cricieth, yn mynd i Dŷ Newydd ar 3 Hydref ar gyfer gweithdai dan ofal y ddau Bardd Plant Cymru. Bydd y diwrnod hefyd yn ddathliad o gyfrol newydd Casia, Eliffant yn Eistedd ar Enfys (Gwasg Carreg Gwalch), sy’n lyfryn llawn ymarferion ysgrifennu barddoniaeth i athrawon a phlant fel ei gilydd. Trefnir y diwrnod ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, Gwasg Carreg Gwalch a Llenyddiaeth Cymru.

 

Her 100 Cerdd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr fel rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Bydd y tîm yn cychwyn arni am hanner dydd ar ddydd Mercher 2 Hydref, ac yn rhoi’r atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd, dydd Iau 3 Hydref.

Y pedwar dewr eleni yw Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker.

Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant. Gwahoddir chi, y cyhoedd, i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.

Darllenwch ragor am Her100Cerdd yma: www.llenyddiaethcymru.org

Uncategorized @cy

Adnodd Diwrnod Barddoniaeth - Gruffudd Owen

Adnodd Diwrnod Barddoniaeth - Gruffudd Owen
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 368KB