Dewislen
English
Cysylltu

‘Mamieithoedd’ yng Ngŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol Cúirt

Cyhoeddwyd Maw 21 Ebr 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn ymuno â beirdd o’r Alban ac Iwerddon ar gyfer darlleniadau byw a thrafodaethau mewn gŵyl llenyddiaeth ddigidol arloesol.

 

 

Mae British Council Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a British Council Iwerddon yn cydweithio ar ddigwyddiad amlieithog o’r enw ‘Mamieithoedd’ ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol Cúirt. Roedd yr ŵyl fawreddog i fod i gael ei chynnal yn Galway, Iwerddon, ond bydd nawr yn cael ei darlledu ar-lein, yn hollol rhad ac am ddim, rhwng dydd Iau 23 a dydd Sadwrn 25 Ebrill.

Y mae nifer o enwau cyfarwydd yn rhan o arlwy’r ŵyl, gan gynnwys yr awduron ffuglen Gwyddelig enwog Eimear McBride, Anne Enright a Lisa McInerney. Bydd ‘Mothertongues’ yn dathlu peth o’r farddoniaeth gyfoes orau o Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Yn rhan o gyfres o sgyrsiau am iaith a barddoniaeth sydd wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd, ysbrydolwyd ‘Mothertongues / Mamiaith’ gan Flwyddyn Ieithoedd Cynhenid ​​UNESCO y llynedd a’i chefnogi gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yr awdur a pherfformiwr o Iwerddon Ciara ní É a’r academydd, awdur a darlledwr o’r Alban Padraig Macaoidh yn cyflwyno cerddi sy’n ymchwilio i’r syniad o iaith, o safbwynt Cymraeg, Gaeleg yr Alban a Gwyddeleg. Mae eu gwaith hefyd yn archwilio hunaniaethau a sut mae ieithoedd yn parhau i esblygu. Er y bydd y cerddi yn ‘mamieithoedd’ y beirdd, bydd y cyflwyniadau a’r trafodaethau yn Saesneg a bydd cyfieithiadau o’r cerddi yn cael eu harddangos ar y sgrin ochr yn ochr â’r darlleniadau. Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Brif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn

Cynulleidfa Fyd-eang o Garwyr Llenyddiaeth

Yng nghyd-destun yr heriau byd-eang cyfredol, mae trefnwyr a phartneriaid yr ŵyl yn awyddus i barhau i swyno a difyrru cefnogwyr llenyddiaeth ledled y byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr y British Council yn Iwerddon, Mags Walsh:

“Wrth i’r British Council gyrraedd carreg filltir bwysig o 30 mlynedd o gydweithio ag Iwerddon, mae ein nod yr un mor bwysig ag erioed, sef meithrin a chyfoethogi cysylltiadau rhwng diwylliannau amrywiol a thraddodiad celfyddydol y DU ac Iwerddon. Rydym yn eithriadol o falch o gydweithio â Llenyddiaeth Cymru a British Council Cymru i sicrhau fod y digwyddiad hwn yn digwydd ar-lein. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu traddodiadau llenyddol cyfoethog Cymru, yr Alban ac Iwerddon, ac at glywed y cyfranogwyr yn cael sgyrsiau ysbrydoledig a difyr am iaith a hunaniaeth yn eu gwledydd.”

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae gan Iwerddon a Chymru berthynas hirfaith sy’n codi uwchlaw ffiniau a chyfnodau heriol. Rwy’n hynod falch fod y British Council, Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio gyda’r ŵyl Cuirt yn Galway, a hynny yn ystod cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae’r ŵyl lenyddiaeth ddigidol hon yn ein galluogi oll i gysylltu ag ac i ysbrydoli ein gilydd yn y cyfnod heriol hwn. Rwy’n falch iawn fod modd i’r drafodaeth bwysig hon am iaith barhau, a bod modd i bawb fwynhau’r digwyddiad rhithiol yn rhad ac am ddim.”

Dywedodd Lleucu Siencyn:

“Alla i ddim meddwl am unrhyw beth mwy hyfryd na chlywed awdur yn darllen ei waith ei hun. Rydym yn colli’r profiad llenyddiaeth byw hwn yn Llenyddiaeth Cymru yn fawr iawn, ond rydym wrth ein boddau o weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y gorau o’n lleisiau cyfoes i’w clywed o hyd – yn ein ystafelloedd byw ein hunain! Trwy gydol yr argyfwng presennol, rydym yn parhau i ddathlu diwylliant llenyddol Cymru gyda’n ffrindiau ledled y byd.”

Dywedodd Sasha de Buyl, cyfarwyddwr yr ŵyl:

“Mae llyfrau, i ddyfynnu Stephen King, yn hud cludadwy unigryw ac rydym yn ffodus yn yr amser hwn o ynysu ein bod yn dal i allu dod â’r syniadau, y lleisiau a’r sgyrsiau sy’n gwneud ein gŵyl yn arbennig at ein cynulleidfaoedd. ”

 

Gwybodaeth am y beirdd

Ciara Ní É yw Awdur Preswyl DCU 2020. Hi yw sylfaenydd REIC, noson meic agored farddonol amlieithog sy’n digwydd yn fisol a sy’n cynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth, adrodd straeon a rap. Mae hi wedi perfformio yn rhyngwladol yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel, Sweden, ac ar draws Iwerddon, ac mae hi’n llysgennad Canolfan Awduron Iwerddon. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn amrywiaeth o gyfnodolion gan gynnwys Icarus a Comhar ac mae ei chasgliad barddoniaeth cyntaf ar y gweill.

Ganwyd a magwyd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn Llundain i rieni o Gymru. Mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn awdur toreithiog, mae Ifor wedi ennill y Goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol – un o wobrau enwocaf yr ŵyl. Mae Ifor wedi cynrychioli barddoniaeth Gymraeg ledled y byd yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, yn fwyaf diweddar yn Camerŵn, Lithwania, China, Gwlad Belg, yr Almaen ac Iwerddon.

Mae Pàdraig MacAoidh yn siaradwr Gaeleg brodorol o Ynys Lewis; mae’n academydd, awdur a darlledwr y mae treftadaeth ieithyddol amrywiol man ei eni yn dylanwadu ar ei waith. Mae Padraig wedi gweithio yng Nghanolfan Barddoniaeth Seamus Heaney, Prifysgol Queen’s Belffast; Coleg y Drindod Dulyn a Choleg Prifysgol Dulyn; ac yn Sabhal Mòr Ostaig, lle’r oedd yn ysgrifennwr preswyl. Mae’n awdur monograff ar waith Sorley MacLean (RIISS, 2010), ac mae wedi cyd-olygu casgliadau o draethodau ar farddoniaeth fodern Wyddelig a’r Alban ac ar lenyddiaeth Gaeleg yr Alban.